Llanddwywe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Llanddwywe.

Pentref bychan a phlwyf eglwysig ger arfordir Bae Ceredigion yn ne Gwynedd yw Llanddwywe. Mae'n gorwedd fymryn i'r de o bentref Dyffryn Ardudwy ar ffordd yr A496.

Mae eglwys Llanddwywe yn hynafol. Fe'i cysylltir â'r santes Dwywe, gwraig Dunod Fawr a mam i'r seintiau Deiniol, Cynwyl a Gwarthan, yn ôl traddodiad. Pan fu farw y bardd Wiliam Phylip o Hendrefechan yn 92 oed, cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanddwywe ar 11 Chwefror, 1669 : gwelir ei feddrod yno o hyd. Cedwir ar glawr cywydd marwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.

Y plwyf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llanddwywe yn blwyf ers yr Oesoedd Canol. Roedd yn cael ei rhannu'n ddwy ran gyda darn o blwyf Llanelltud yn eu gwahanu, sef

  • Llanddwywe-is-y-graig,
  • Llanddwywe-uwch-y-graig.

Gorweddai yn Ardudwy Is Artro yn Ardudwy.

Mae'n blwyf fynyddig sy'n ymestyn o'r arfordir i gyfeiriad y Rhinogau ac i lawr i ddyffryn Afon Mawddach.