Bae Ceredigion

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bae Ceredigion
Cardigan bay graham well.jpg
Math Bae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Aberystwyth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.5°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Teifi, Afon Ystwyth, Afon Arth, River Hawen Edit this on Wikidata

Bae yn Sianel San Siôr yng ngorllewin Cymru yw Bae Ceredigion. Mae'r siroedd Gwynedd, Ceredigion a gogledd Sir Benfro yn ffinio â Bae Ceredigion. Gorwedd Penrhyn Llŷn i'r gogledd. Ceir tir amaeth da ar lannau'r bae.

Bae Ceredigion

Natur a daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nodweddir arfordir y bae gan nifer o draethau braf gyda thywod gwyn. Mae bywyd gwyllt yr ardal yn unigryw ac yn cynnwys poblogaeth bwysig o ddolffinau a nifer o adar môr.

Golygfa ar Ynysoedd Tudwal ym mhen gogleddol Bae Ceredigion

Trefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Afonydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae sawl afon yn llifo i'r bae. Y pwysicaf yw:

Ynysoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er nad oes llawer o ynysoedd yn y bae mae'n cynnwys un o ynysoedd pwysicaf Ynys Enlli, ynghyd ag Ynysoedd Tudwal yn y gogledd ac Ynys Aberteifi ac Ynys Lochdyn yn y de.

Hanes a thradodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at yr 20g roedd trefi a phorthladdoedd Bae Ceredigion yn gartref i ddiwydiant morol pur sylweddol. Hwyliai llongau o Borthmadog dros Gefnfor Iwerydd ac i Ewrop, a bu Aberteifi yn bwysicach na Chaerdydd fel porthladd ar un adeg.

Yn llên gwerin Cymru, cysylltir y bae â sawl chwedl. Y fwyaf adnabyddus yn ddiau yw chwedl Cantre'r Gwaelod, y cantref a foddiwyd gan y môr ar noson stormus diolch i esgeulusdod Seithenyn. Ceir yn ogystal sawl traddodiad am fôr-forwynion, yn arbennig yng Ngheredigion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]