Dwywe

Oddi ar Wicipedia
Dwywe
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Man preswylLlanddwywe, Bangor-is-y-coed Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd560 Edit this on Wikidata
TadGwallog Edit this on Wikidata
PriodDynod Fawr Edit this on Wikidata
PlantDeiniol Edit this on Wikidata

Santes o'r 6g oedd Dwywe neu Dwywai [1] a merch Gwallog ab Llenog.[2]

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Roedd Dwywe yn wraig i Dunod Fawr, un o feibion Cunedda Wledig, pennaeth cyntaf Gwynedd, yr enwir cantref Dunoding ar ei ôl, yn ôl hanes traddodiadol Cymru. Ni wyddys dim mwy am Ddwywe na'i bod yn wraig Dunod ac yn fam i'r seintiau Deiniol, Cynwyl a Gwarthan, yn ôl traddodiad.[1]

Gan fod enw'r santes yn cynnwys yr elfen dwy- (yn yr ystyr "sanctaidd"), mae'n bosibl mai hanesion am duwies frodorol wedi ychwanegu i'r traddodiad Cristnogol amdani. Ategir y posiblrwydd gan y ffaith ei fod yn wraig i Ddunod, sefydlydd Dunoding; gellid dadlau ei bod yn cynrychioli "sofraniaeth" leol.

Cysylltir y santes â phlwyf Llanddwywe, Ardudwy Is Artro (de Gwynedd).[1]

Gwelir hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. An Essay on the Welsh Saints or the primitive Christians, usually considered ...; adalwyd 8 Ionawr 2017.