Gwallog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Brenin neu bennaeth o'r Hen Ogledd a gysylltir a theyrnas Elmet oedd Gwallog (fl. 6g). Ceir sawl ffurf Cymraeg Canol ar ei enw, yn cynnwys Gwallawg fab Lleenawg a Gwallawg mab Llaenawg. Mae'r ffurf ar ei enw a ddefnyddir gan ysgolheigion yn amrywio hefyd, e.e. Gwallawg ap Lleynnawg (Brynley F. Roberts).

Cyfeirir at Gwallog yng ngwaith Nennius fel un o bedwar brenin y Brythoniaid - ei gefnder Urien Rheged, Morgant Bwlch, a Rhydderch Hen oedd y lleill - a wrthsefyllodd Hussa, brenin Angliaidd Brynaich. Yn yr Achau Cymreig mae'n un o ddisgynyddion Coel Hen ac yn fab i Lleenawg.

Ceir dwy awdl i Wallog a briodolir i'r bardd Taliesin yn Llyfr Taliesin. Mae un ohonynt yn foliant iddo, sy'n cynnwys llinell lle dywedir fod rhyfelwyr Aeron, yn nheyrnas Rheged, yn crynu rhag ei ofn. Mae'r ail yn farwnad iddo. Ar sail cyfeiriad unig yn un o'r awdlau hyn fel "ynad" Elmet, damcaniaethir ei fod yn frenin ar y deyrnas fechan honno.

Ar sail y canu cynnar, mae'n bosibl hefyd fod y bardd Aneirin yn fab i Dwywai (neu Dwywei), chwaer Gwallog.

Mae'r gerdd 'Moliant Cadwallon' yn awgrymu fod Gwallog wedi ymladd ym Mrwydr Catraeth.

Ceir englynion chwedlonol eu naws am Wallog yng Nghanu Llywarch Hen. Yno dywedir ei fod wedi ymladd gyda Morgant a Dunawd fab Pabo ac eraill yn erbyn meibion Urien Rheged.

Ceir cyfeiriadau at Wallog yn 'Englynion y Beddau', yn Llyfr Du Caerfyrddin hefyd, ond mae'n bosibl mai ryw Wallog arall a olygir yno.

Cyfeirir at Wallog yn y Trioedd fel un o 'Dri Phost Cad Ynys Prydain', gyda Dunawd fab Pabo Post Prydain a Chynfelyn Drwsgl.

Os cywir yr uniaethu â theyrnas Elmet, olynwyd Gwallog gan ei fab Ceredig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]