Y Bala

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Bala
Bala High Street.jpg
Math tref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52°54'40"N, 3°35'46"W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000045 Edit this on Wikidata
Cod OS SH925359 Edit this on Wikidata
Cod post LL23 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01678 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Gweler hefyd Bala (gwahaniaethu) am lefydd eraill o'r enw Bala.

Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,980 (Cyfrifiad 2001).

Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dref i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.

Cynhelir gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi, fel arfer dros gyfnod o ddwy noson.

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd "bala" gynt,[1] a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn.[2] Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid. Ymddengys yr elfen "bala" mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.[1]

Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Capel Tegid y Bala, tua 1875.

Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.

Yr hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Hinsawdd Bala 163m, 1971-2000
Mis Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Aws Med Hyd Tac Rha Blwyddyn
Tymheredd uchaf (cyfartalog) °C (°F) 6.7
(44.1)
6.8
(44.2)
8.7
(47.7)
11.1
(52.0)
14.6
(58.3)
16.8
(62.2)
19.1
(66.4)
18.8
(65.8)
16.2
(61.2)
12.9
(55.2)
9.4
(48.9)
7.5
(45.5)
12.38
(54.29)
Tymheredd isaf (cyfartalog) °C (°F) 0.9
(33.6)
0.8
(33.4)
2.1
(35.8)
2.8
(37.0)
5.2
(41.4)
8.0
(46.4)
10.2
(50.4)
9.8
(49.6)
8.0
(46.4)
5.6
(42.1)
3.0
(37.4)
1.6
(34.9)
4.83
(40.70)
Source: YR.NO[3]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Bala, Gwynedd (pob oed) (1,974)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Bala, Gwynedd) (1,482)
  
78.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Bala, Gwynedd) (1515)
  
76.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Bala, Gwynedd) (380)
  
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Oriel Luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 11.
  2.  bala. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2015.
  3. "Climate Normals 1971–2000". YR.NO. http://www.yr.no/place/United_Kingdom/Wales/Llanfor/statistics.html. Adalwyd 3 Maw 2011.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: