Llaniestyn, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llaniestyn

Pentref yn Llŷn yw Llanisetyn, a leolir 8 milltir i'r gorllewin o Bwllheli, Gwynedd. Mae Llaniestyn yn blwyf eglwysig hefyd.

Mae'r pentref yn gorwedd yng ngodre Carn Fadryn mewn dyffryn cysgodol. Rhai blynyddoedd yn ôl sefydlodd y pentrefwyr ardd gymunedol. Mae croeso i unrhyw un droi i mewn, eistedd a gwerthfawrogi harddwch y bywyd gwyllt o gwmpas, gwrando ar gân yr adar ac ymlacio yn y llonyddwch. Mae'n safle ddelfrydol i gerddwyr gymeryd hoe a chael picnic ar eu taith o gwmpas Llyn.

Eglwys Sant Iestyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae eglwys y plwyf yn hen a diddorol. Mae corff yr eglwys a'i siansel yn dyddio o'r 13g. Ceir ynddi nifer o ffenestri lanset cynnar, rhai ohonynt yn dyddio o'r 12g, oes Owain Gwynedd.

Yn y pen gorllewinol ceir oriel i gerddorion o ddechrau'r 19g. Mae'r bedyddfaen gwyngalchog yn dyddio o'r 16g. Yn ogystal mae nifer o gofebion o'r 18g yn yr eglwys.

Arferid claddu tlodion yr ardal yn yr ochr ddeheuol ar y llaw dde wrth fynd drwy'r giat gyda'r wal derfyn efo Ty'n Llan. Ychydig iawn o olion y beddau sydd i'w gweld heddiw. (pauper's graves)