Pontllyfni

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Pontllyfni yn bentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd, ar briffordd yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli. Saif lle mae Afon Llyfni yn cyrraedd y môr, ychydig i'r gorllewin o Benygroes a Llanllyfni. Ystyrir yr ardal yn rhan o Ddyffryn Nantlle.

Chwedlau a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pont-y-Cim

Dyma'r ardal a elwid yn "Brynaerau" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae nifer o enwau lleoedd o gwmpas Pontllyfni a chysylltiadau a'r chwedl yma, er enghraifft ynys fechan 'Caer Arianrhod' ychydig i'r gogledd, rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle, a 'Thrwyn Maen Dylan' fymryn i'r de o'r pentref. Mae yno gae ar y lôn i Ben-Y-Groes i'r dde o Bont-y-Cim ac ar y ffordd i Fryn Gwydion, sy'n perthyn i fferm 'Eithinog Wen', sydd iddo'r enw 'Llain yr Hwch'[1].

Mae'r pentref hefyd yn enwog yn llên-gwerin am chwedl Pont y Cim - pont bwa garrreg a adeiladwyd ym 1612 gan etifedd Glynllifon wedi i'w chariad gael ei foddi ar y rhyd a fodolai yma cyn codi'r bont yn ystod storm fawr pan oedd ar ei ffordd i'w gweld hi. Mae'r ysgrifiad hwn ar garreg ar dalcen y bont:

"Pont Y Cim, Catring Bwkle hath give 20 povends to mack this brighe. 1612".

Carreg fellt Pontllyfni[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Pontllyfni yn enwog hefyd ym myd seryddiaeth am ddigwyddiad ym mis Ebrill 1931, pan syrthiodd maen awyr (neu 'garreg fellt') i'r ddaear ar dir fferm Coch-y-bug wedi sŵn aruthrol dros ardal eang. Dyma beth mae'r cylchgrawn Y Gwyddonydd yn ei ddweud am y lle y glaniodd y garreg fellt:

"Disgynnodd bedwar cam o'r lle yr oedd gŵr y fferm, y diweddar John Lloyd Jones a'i fab John Aneuryn Jones, yn sefyll, ac fe suddodd droedfedd mewn daear galed. Pan dyn-nwyd ef allan o'r twll yr oedd yn gynnes ac o liw llwyd-las."[2]

Bu cryn helbul wedyn hefyd wrth i'r Amgueddfa Brydeinig geiso prynu'r garreg fellt gan y perchennog newydd, Mr John R Jones o ardal Llanrhystud - gwrthododd yntau'i werthu. Ym 1977 cyflwynodd y garreg i'r amgueddfa. Sonnir am y garreg fellt fel "The Pontllyfni meteorite" yn y papurau seryddol - ond dan y camsillafiad 'Pontlyfni' yn aml y'i rhestrir. Dim ond dwy garreg fellt sydd erioed wedi taro'r ddear yng Nghymru i sicrwydd: y naill ym Mhontllyfni a'r llall tua bymtheg milltir i ffwrdd ochr bella crib Nantlle, ym Meddgelert ym 1949.[3]

Pobl o Bontllyfni[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Syr Ifor Williams: Bu'r bardd ac ysgolhaig yn byw yn y pentref am gyfnod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]