Dyffryn Ardudwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dyffryn Ardudwy
Dyffryn Ardudwy chambered cairn.jpg
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7888°N 4.0968°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000062 Edit this on Wikidata
Cod OSSH585235 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Dyffryn Ardudwy ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd A496 rhwng Harlech ac Abermaw yn ardal Ardudwy. Mae pentref Llanbedr ychydig i'r gogledd a Thalybont i'r de.

Mae twristiaeth yn bwysig i'r pentref bellach, gan ei fod gerllaw traethau Morfa Dyffryn. Ychydig i'r gorllewin o ganol y pentref mae un o orsafoedd trên Rheilffordd Arfordir Cymru.

Delwedd lloeren Dyffryn Ardudwy

Hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir gweld nifer o hynafiaethau o gwmpas y pentref, yn cynnwys tair siambr gladdu: Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy ei hun, Bron y Foel Isaf a Siambr Gladdu Cors Y Gedol, sydd gerllaw hen blasty Cors y Gedol i'r dwyrain o'r pentref. Mae un arall fymryn i'r de ger Tal-y-bont, felly, gellir casglu i'r ardal yma fod yn aradl boblog iawn yn y cyfnod Neolithig. Mae bryngaer Pen y Dinas o Oes yr Haearn hefyd gerllaw.

Pobl[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dyffryn Ardudwy (pob oed) (1,540)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dyffryn Ardudwy) (704)
  
47.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dyffryn Ardudwy) (726)
  
47.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Dyffryn Ardudwy) (367)
  
48.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.