Abergwyngregyn
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Aber |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.234°N 4.019°W |
Cod OS | SH653726 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref bychan a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Gwynedd yw Abergwyngregyn ( ynganiad ), neu Aber.[1] Saif tua hanner milltir o'r môr wrth geg ceunant dwfn sy'n arwain i mewn i'r Carneddau. Ceir gwarchodfa natur ger y traeth ac mae glannau Traeth Lafan ei hun yn warchodfa adar lle gwelir nifer o rywogaethau o adar môr. Roedd teithwyr i Ynys Môn yn arfer croesi Traeth Lafan i ddal y cwch fferi drosodd i Lanfaes tan i Bont y Borth gael ei chodi. Mae'r caeau rhwng y pentref a'r traeth yn dir porfa bras a lleolir Fferm Prifysgol Cymru, Bangor ar ymyl y pentref. Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Sant Bodfan, yn dyddio yn ôl i 1878 ac yn sefyll ar safle'r hen eglwys. Mae Llwybr y Gogledd yn gweu drwy'r pentref.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyfnod Rhufeinig
[golygu | golygu cod]Mae gan Aber hanes hir. Ar y bryn uwchlaw'r pentref i'r de-ddwyrain ceir bryngaer Geltaidd Maes-y-gaer. O gyfeiriad Dyffryn Conwy mae'r hen ffordd Rhufeinig a redai o Gaer i Segontiwm yn dod i lawr o Fwlch-y-Ddeufaen ac yna'n dilyn y llethrau isel ger y pentref. Tua dwy filltir o'r pentref yn y bryniau mae olion nifer o gytiau cynhanesyddol i'w gweld yng Nghwm Anafon.
Oesoedd Canol
[golygu | golygu cod]Yng Nghwm Anafon mae yna hen gapel cynnar sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol. Ar ochor de-ddwyreiniol i'r pentref ceir Pen y Mwd, sef hen domen amddiffynnol o’r un cyfnod.
Enw hynafol y pentref oedd 'Aber Garth Celyn'. Roedd yn gartref i brif lys cantref Arllechwedd yng nghwmwd Arllechwedd Isaf, a dyfodd i fod yn un o brif lysoedd tywysogion Gwynedd yn y 13g (ynghyd â llys Aberffraw a Llys Rhosyr ym Môn). Yma yn y llys roedd Llywelyn Fawr yn treulio llawer o'i amser. Yma hefyd y digwyddodd y bu ei wraig Siwan, merch y brenin John o Loegr, yn anffyddlon iddo oherwydd ei pherthynas gyda Gwilym Brewys: digwyddiad a fu'n sail i ddrama Saunders Lewis, Siwan. Bu farw Siwan yn Aber yn 1237; cludwyd ei chorff dros y Fenai i'w chladdu yn Llan-faes. Dywedir hefyd fod gan y tywysogion gastell yn Aber - naill ai ar safle castell mwnt a beili Pen y Mwd ar lan yr afon neu ar safle Garth Celyn yn uwch i fyny - ond mae hyn yn bwynt dadleuol.
Bu farw'r Tywysog Dafydd ap Llywelyn o Wynedd yn y llys yn 1246. Ar 19 Mehefin, 1282, bu farw Eleanor de Montfort, Arglwyddes Cymru, gwraig Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, wrth iddi roi genedigaeth i ferch, Y Dywysoges Gwenllian. Rhai misoedd yn ddiweddarach gwnaed un o'r penderfyniadau mwyaf tyngedfennol yn hanes Cymru yn Aber yn Nhachwedd 1282 pan wrthododd Llywelyn Ein Llyw Olaf neges John Pecham, Archesgob Caergaint ar ran Edward I o Loegr a fuasai'n troi Llywelyn yn arglwydd dan y brenin Seisnig. Mae ateb balch a herfeiddiol Llywelyn a'i lys ymhlith y datganiadau pwysicaf o genedlgarwch Cymreig a gafwyd erioed.
Yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Mae cof lleol yn Abergwyngregyn bod y cadwyni sydd i'w gweld yma o flaen y gwesty yn y pentre wedi eu cymryd fel "sgrap" ar orchymyn y llywodraeth dan argyfwng y rhyfel. Dyma un cofnod hefyd gan Owain T. Griffiths, Rhosyffordd, Llangristiolus, Bodorgan, Môn dyddiedig 21 Mehefin 1940: "Y mae mudiad ar droed i hel y Scrap Iron sydd gennym ym mhob man hyd y wlad". Gellir dyfalu felly bod y llun hwn sydd ar gerdyn post sydd heb ei ddyddio, wedi ei dynnu cyn y dyddiad hwn (neu efallai tua'r dyddiad hwn gan sylwi bod y coed ar Faes y Gaer - y bryn y tu ol i'r gwesty yn y llun yn dangos olion o gael eu clirio. (Cafodd coed eu cynaeafu hefyd ar gyfer y War Effort).
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r pentref yn sefyll ar bwys gwibffordd yr A55. Ychydig uwchlaw'r pentref mae'r Rhaeadr Fawr, lle mae'r Afon Goch yn plymio 120 troedfedd i'r dyffryn is-law. Mae'r rhaeadr a'r tiroedd gerllaw yn gyrchfan i gerddwyr ac adarwyr, ond pentref distaw yw hwn heddiw, yn wahanol i'w hanes.
Peilonnau
[golygu | golygu cod]Dywed hen daflen tywys y Cyngor Gwarchod Natur bod rhychwant y ceblau sy’n croesi‘r dyffryn gyda’r hwyaf yng ngwledydd Prydain. Amheuir hyn gan fod rhychwant arall o geblau yn croesi’r Hafren ger y pontydd sy’n cyrraedd milltir o hyd. Gyda’i hyd o 730m. Prin bod rhychwant dyffryn Aber yn cyrraedd gwaelod y rhestr.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Y Dywysoges Gwenllian, neu Gwenllian o Gymru, merch Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ac Elinor de Montfort, a aned yn llys Aber ar 12 Mehefin, 1282.
- Robert John Rowlands (Meuryn), bardd, nofelydd plant a newyddiadurwr, a aned yn Aber yn 1880.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Arllechwedd - y cantref canoloesol
- Arllechwedd Uchaf - y cwmwd canoloesol
- Brwydr Moel-y-don, 1282
- Garth Celyn - llys Tywysogion Gwynedd yn Aber
- Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm - y ffordd Rufeinig a redai drwy Aber
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- H. Hughes a H.L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd 1984)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud: 2
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Cefndir henebion Aber Archifwyd 2007-03-11 yn y Peiriant Wayback
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr