Abersoch

Oddi ar Wicipedia
Abersoch
Mathpentref, cyrchfan lan môr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8239°N 4.5066°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH312281 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref sylweddol o faint yng nghymuned Llanengan, Gwynedd, Cymru, yw Abersoch[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar benrhyn Llŷn, ym mhen draw priffordd yr A499, 11 km (7 milltir) i'r dwyrain o dref Pwllheli a 43 km (27 milltir) o Gaernarfon. Enwir y pentref ar ôl aber Afon Soch, sy'n cyrraedd y môr yma ar ôl llifo trwy'r pentref.

Datblygodd Abersoch fel porthladd pysgota bychan, ond erbyn hyn twristiaeth yw’r prif ddiwydiant, yn enwedig hwylio. Daeth y pentref yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Oherwydd hyn mae nifer fawr o fewnfudwyr yn y pentref, wedi symud yno o Loegr yn bennaf, ac mae Cymreictod yr ardal a'r iaith Gymraeg wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad.

Ceir nifer o siopau a lleoedd bwyta yn y pentref. Gellir hefyd cymryd taith mewn cwch i weld Ynysoedd Tudwal.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Hen ffotograff gan John Thomas o'r harbwr yn Abersoch, Hydref 1896

Argyfwng tai[golygu | golygu cod]

Mae Abersoch wedi dod i gynrychioli'r argyfwng tai yng nghefn gwlad Cymru oherwydd y prisiau uchel ar dai yn y pentref gwyliau hwn.

Ym mis Mai 2005 rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’r hanes fod darn o draeth yn Abersoch gyda chaniatad cynllunio ar gyfer cwt traeth, wedi gwerthu am £63,000. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn anodd os nad amhosibl i bobl ifainc lleol fforddio prynu tai.

Yn hanner cyntaf 2008 cafwyd enghreifftiau eraill o brisiau syfrdanol a wnaeth y pennawdau. Yn Chwefror rhoddwyd sied pren 18x15 troedfedd "mewn cyflwr adfeiliedig" ar werth am £150,000. Mae'n ddeg munud o'r traeth, heb olygfa yn y byd, ac angen cryn dipyn o waith arno.[5]

Hanes[golygu | golygu cod]

  • Regatta Abersoch:
14 Awst 1924. Regetta [sic] yn Abersoch. Gwlaw mawr tan amser te. Neb o yma yno.[6]
  • Ras gychod:

“Amgylchiad arall a gofiaf yn dda oedd ras gychod Abersoch, 'Regatta', a gynhelid bob blwyddyn ac sy'n dal mewn bri heddiw (1985). Unwaith erioed y bum yno, tua'r flwyddyn 1909 neu 1910. Cofiaf y byrddau gwerthu, 'Cheap Jacks' fel y'i gelwid. 'Rwy'n cofio hefyd am ddyn yn boddi yno, mab Carreg y Plas, Aberdaron, ond y cof mwyaf byw sydd gennyf yw gweld mab bach fy chwaer hynaf, a oedd ddwy flynedd yn iau na mi, yno mewn pram fawr a fy ffrog binc i amdano. 'Roedd bechgyn bach yn gwisgo ffrogiau ar ddechrau'r ganrif nes cyrraedd pump neu chwech oed. Ni wyddwn bod fy mam wedi rhoi'r ffrog binc i William ar ôl i mi dyfu allan ohoni, ond gwn i mi grio a gwneud stwr a cheisio tynnu'r ffrog oddi arno, nes oedd gan mam a fy chwaer gywilydd ohonof.”[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. BBC Cymru'r Byd: "Sied ar werth am £150,000"
  6. Dyddiadur John Owen Jones, Ffermwr, Crowrach, Bwlchtocyn, Llŷn.
  7. Janet D Roberts (1985) O Ben Llŷn i Lle bu Lleu (Cyngor Gwlad Gwynedd)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Oriel[golygu | golygu cod]