Aber

Oddi ar Wicipedia
Aber
Enghraifft o'r canlynolFFH-Habitat Edit this on Wikidata
Mathecosystem forwrol, river ecosystem, corff o ddŵr, ecosystem, aber, ecoregion Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y tirffurf yw hon: am y pentref a chymuned ger Bangor yng Ngwynedd, gweler Abergwyngregyn.

Aber yw'r term daearyddol am geg afon, lle mae afon yn llifo i gorff dŵr mwy. Mae'n rhoi enw i sawl lle yng Nghymru, fel arfer yn ôl Aber + enw'r afon berthnasol (er enghraifft Aberystwyth, Abertawe), ac ambell i le y tu allan i Gymru (fel Aberdeen).

Er mai ceg afon yn arwain i'r môr yw aber fel arfer, gelwir man lle mae afon yn ymuno ag afon arall fwy yn aber hefyd, er enghraifft Aberhonddu lle mae'r Afon Honddu yn ymuno ag Afon Wysg. Mae pentref arall o'r enw Aber, ger Talybont-ar-Wysg, lle mae dwy afon yn ymuno. Enw arall, mwy penodol, ar y math yma o aber yw cymer.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am aber
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.