Afon Wysg
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy, Cymru |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5361°N 2.9828°W, 51.9008°N 3.7181°W |
| Aber | Môr Hafren |
| Llednentydd | Afon Llwyd, Afon Tarell, Afon Clydach, Sir Fynwy, Afon Gafenni, Afon Ebwy |
| Hyd | 112 cilometr |
![]() | |
- Gweler hefyd: Afon Wysg (Dyfnaint).
Afon sy'n llifo o lethrau gogleddol y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin i foryd Afon Hafren ger Casnewydd yw Afon Wysg.
Mae'r afon yn tarddu ychydig i'r gogledd o gopaon Bannau Sir Gâr ac yna'n rhedeg i lawr yn syrth i gronfa dŵr Llyn Wysg. Mae'n rhedeg i lawr i gyfeiriad y dwyrain o'r llyn trwy bentref Pontsenni i Aberhonddu. Rhwng y llyn ac Aberhonddu mae sawl afon llai yn ymuno â hi, fel Afon Crai, Afon Senni ac Afon Tarell o'r de ac Afon Brân o'r gogledd.
O Aberhonddu try'r afon i'r de-ddwyrain i lifo trwy Llangynidr a phasio Crughywel a Glangrwyne, lle mae ffrwd Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, i'r Fenni. O'r dref honno mae cwrs Afon Wysg yn troi i'r de ac mae'r afon yn rhedeg trwy Ddyffryn Wysg yn iseldiroedd Gwent, gan basio trwy Brynbuga, Caerllion a Chasnewydd i aberu yn moryd Afon Hafren.
Aber Afon Wysg yw'r dyfnaf ym Mhrydain ac mae ganddi'r gwahaniaeth mwyaf rhwng ei llanw a'i thrai nag unman yn y byd ac eithrio Bae Fundy (Bay of Fundy) yng Nghanada.

Safleoedd cadwraeth
[golygu | golygu cod]Ceir ambell Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n gysylltiedig a'r afon e.e. Afon Wysg (isafonydd).
