Crucywel

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Crughywel)
Jump to navigation Jump to search
Crucywel
Math Tref, Cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Skaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8597°N 3.1372°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000267 Edit this on Wikidata
Cod OS SO217186 Edit this on Wikidata
Cod post NP8 Edit this on Wikidata
Gwefan www.crickhowellinfo.org.uk Golygu ar Wicidata

Mae Crucywel (Seisnigiad: Crickhowell) neu weithiau "Crughywel" a "Crug Hywel"[1][2] yn dref yn ne-ddwyrain Powys ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.

Tardda'r enw o'r bryn Crug Hywel a'i fryngaer drawiadol gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeheuol y Mynydd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn byw yn y dref.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r 14g, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r 17g. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.

  • Castell Crucywel
  • Eglwys Sant Edmwnd
  • Pont ar Wysg
  • Ysgol Crucywel
Henebion yng Crucywel
Pont ar Wysg 
Castell Crucywel 

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Crucywel (pob oed) (2,063)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Crucywel) (169)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Crucywel) (1282)
  
62.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Crucywel) (380)
  
40.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gefeilldref[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y llyfr enw: Enwau'r Wlad gan D. Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 2007)
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; Cyhoeddwyd 2008; tud. 201
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013