Neidio i'r cynnwys

Llanddewi yn Hwytyn

Oddi ar Wicipedia
Llanddewi yn Hwytyn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth348, 365, 310 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,318.46 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3°N 3.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000353 Edit this on Wikidata
Cod OSSO25856767 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanddewi yn Hwytyn neu Hwytyn[1] (Saesneg: Whitton). Saif ger cyffordd y ffyrdd B4357 a B4356, ychydid i'r de o Drefyclawdd.

Ychydig i'r gorllewin mae Pilalau neu Pyllalai (Pilleth yn Saesneg), lle enillodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth ym Mrwydr Bryn Glas. Yn 1870 cafwyd hyd i bentyrrau o esgyrn ger eglwys Llanddewi yn Hwytyn; credir mai gweddillion milwyr a laddwyd yn y frwydr oeddynt. Ychydig i'r dwyrain o'r pentref mae Clawdd Offa.

Heblaw pentref Llanddewi yn Hwytyn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Discoed, Casgob a Pilalau. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 310.

Golygfa ar Llanddewi yn Hwtyn a'r cylch

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddewi yn Hwytyn (pob oed) (348)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddewi yn Hwytyn) (28)
  
8.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddewi yn Hwytyn) (117)
  
33.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddewi yn Hwytyn) (45)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.