Aberedw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberedw
St Cewydd's Church, Aberedw - geograph.org.uk - 1027665.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1167°N 3.35°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000248 Edit this on Wikidata
Cod OS SO080476 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Kirsty Williams (Rhyddfrydwyr)
AS/au Jane Dodds (Y Democratiaid Rhyddfrydol)

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Aberedw. Saif ar lan ddwyreiniol Afon Gwy, lle mae Afon Edw yn ymuno a hi, ychydig i'r de-ddwyrain o dref Llanfair-ym-Muallt. Ceir olion castell yma, a adeiladwyd tua 1284, ond dinistriwyd llawer ohono i wneud lle i'r rheilffordd. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o tua'r 14g, i sant Cewydd.

Cysylltir yr ardal a'r digwyddiadau yn Rhagfyr 1282 pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri. Dywedir i Lywelyn lochesu ger Aberedw, ac mae ogof gerllaw a elwir yn Ogof Llywelyn.

Heblaw pentref Aberedw, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanbadarn Garreg a Rhiwlen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 219.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberedw (pob oed) (229)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberedw) (25)
  
11.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberedw) (113)
  
49.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Aberedw) (31)
  
29.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013