Penegoes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Penegoes
Penegoes Water Mill, near Machynlleth - geograph.org.uk - 38865.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCadfarch Edit this on Wikidata
Poblogaeth550 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd52.598 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5924°N 3.808°W Edit this on Wikidata
Cod postSY20 Edit this on Wikidata

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, gogledd-orllewin Powys, yw Penegoes ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Gorwedd ar yr A489 ar y ffordd i Fallwyd tua 2 filltir i'r dwyrain o dref Machynlleth, ar lan Afon Dyfi. Caiff y gymuned, Cadfarch, ei enw o Sant Cadfarch, y cysegrir Eglwys Sant Cadfarch ym Mhenegoes iddo.

Ceir hen blasdy o'r enw Dol Cuog ym Mhenegoes, enw sy'n cadw cof am Abercuawg, lleoliad cerdd enwog sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.

Rhed ffordd gul i fyny o'r pentref i Aberhosan a chyfeiriad Pumlumon i'r dwyrain. Ceir nifer o goedwigoedd yn y bryniau o gwmpas y pentref.

Ganed yr arlunydd enwog Richard Wilson (1 Awst, 1714 - 15 Mai, 1782) yn rheithordy Penegoes. Roedd ei dad John Wilson yn rheithor y plwyf.