Trefeca

Oddi ar Wicipedia
Trefeca
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalgarth Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9807°N 3.2492°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO143320 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yng nghymuned Talgarth, Powys, Cymru, yw Trefeca,[1] weithiau Trefecca.[2] Saif ger glan ddwyreiniol Afon Llynfi, i'r de-orllewin o dref Talgarth ac i'r gogledd o Llandyfaelog Tre'r-graig a Llyn Syfaddan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Daeth y pentref yn adnabyddus pan sefydlodd Howell Harris, un o brif arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd, gymuned Gristnogol "Teulu Trefeca" yno yn 1752. Tyfodd i gynnwys tua chant o bobl. Sefydlodd Selina Hastings, Iarlles Huntingdon goleg diwinyddol yno yn 1768. Symudodd hwn i Cheshunt yn 1790, ond daeth yr adeilad y goleg diwinyddol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ddiweddarach. Symudodd y coleg yma i Aberystwyth yn 1906, ac mae'r adeilad, fel Coleg Trefeca, yn awr yn rhedeg cyrsiau preswyl.

Coleg Trefecca, 1910au

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 8 Hydref 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU