Neidio i'r cynnwys

Coleg Trefeca

Oddi ar Wicipedia
Coleg Trefeca
Enghraifft o'r canlynolcoleg, coleg diwinyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1838, 1786 Edit this on Wikidata
LleoliadTrefeca Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLlyfrgell Coleg Trefeca Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthTalgarth, Trefeca Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Coleg Trefeca oddeutu 1901

Un o golegau diwinyddol mwyaf nodedig a phwysig Cymru oedd Coleg Trefeca (Saesneg: defnydd archaig; Trevecca College). Roedd yn goleg ar gyfer hyfforddi gweinidogion Methodistiaeth Calfinaidd ac wedi ei lleoli ym mhentref Trefeca yn yr hen Sir Frycheiniog. Sefydlwyd y Coleg gan y diwygiwr, Hywel Harris.

Teulu Trefeca[golygu | golygu cod]

Adeilad Teulu Trefeca yn 1860 pan defnyddiwyd hi fel Coleg i'r Methodistaid Calfinaidd Teulu Trefeca (darlunir yr adeilad yma yn 1860 pan yn cael ei ddefnyddio fel Coleg Methodistiaid Calfinaidd)

Yn 1752, sefydlodd Hywel Harris, a aned yn Nhrefeca[1] ac a oedd yn un o arweinwyr blaenaf y Diwygiad Methodistaidd Cymreig, gymuned Gristnogol yno o'r enw Teulu Trefeca, wedi'i modelu ar gymuned Morafaidd Herrnhutt yr Iarll von Zinzendorf.

Bu John Wesley yn pregethu i 'deulu' Harris pan ar ymweliad â Threfeca yn Awst 1769 ar gyfer pen-blwydd cyntaf Coleg Trefeca.

Roedd yr ychwanegiadau at dŷ teulu Harris mewn arddull bensaernïol neo-Gothig anarferol, un o’r enghreifftiau cyntaf yng Nghymru, a gwblhawyd erbyn 1772.

Coleg Trefeca, 1768[golygu | golygu cod]

Coleg Trefeca, 1768

Ym 1768, sefydlodd Selina Hastings, Iarlles Huntingdon, seminar diwinyddol yn Nhrefeca. Dewiswyd y safle anghysbell yn rhannol er mwyn i Harris, ffrind yr Iarlles, gadw golwg ar y sefydliad newydd iddi. Roedd agor y coleg yn cyd-daro â diarddel chwech o fyfyrwyr o Neuadd Sant Edmwnd, Rhydychen, oherwydd eu tueddiadau Methodistaidd honedig.[2] Noddwyd y rhan fwyaf o'r chwech gan y Fonesig Huntingdon i ffurfio rhan o'r corff myfyrwyr cyntaf yn ei choleg.

Roedd y defnydd o'r term 'coleg' yn gosod Trefeca ar wahân i'r Academïau Ymneilltuol, ond roedd yn ddadleuol yng nghanol y 18g, gan awgrymu rhyw gymaint o gyfatebiaeth â phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt. Fodd bynnag, nid oedd llawer o fyfyrwyr yn Nhrefeca yn ddigon o fodd i fynychu'r prifysgolion hynafol ac, yn wahanol i leoliad ysgolheigaidd yn unig, ac er gwaethaf eu sefyllfa anghysbell, amharwyd yn aml ar eu hastudiaethau yn Nhrefeca gan aseiniadau pregethu hir o amgylch Prydain.

Trosglwyddodd y coleg i Cheshunt, swydd Hertford, yn 1792.[3] Ffermdy (College Farm) yw'r adeilad a ddefnyddir bellach.

Yn ddiweddarach bu Coleg Cheshunt yn gysylltiedig ag Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr. Symudodd eto yn 1906 i Gaergrawnt[2] ac unwyd â Choleg Westminster, Caergrawnt, ym 1967.[4]

Coleg Trefeca, 1842–1906[golygu | golygu cod]

Ceisiodd Thomas Charles, Methodist Calfinaidd Cymreig, drefnu i gymryd dros adeiladau Coleg Trefeca pan symudodd ymddiriedolwyr Cyfundeb Iarlles Huntingdon eu seminar i Cheshunt yn 1792, ond torodd diwygiad y Bala allan yn union ar y pryd, a, phan dyfodd pethau yn dawelach, yr oedd materion eraill yn pwyso am sylw. Yr oedd coleg wedi cael ei grybwyll yn 1816, ond bu farw y darpar athraw yn ddisymwth, a gollyngwyd y mater am yr amser.

Gorfodwyd ymgeiswyr ar gyfer gweinidogaeth Cyfundebol y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig i symud drostynt eu hunain hyd 1837, pan agorodd Lewis Edwards (1809–1887) a David Charles (1812–1878) ysgol i ddynion ifanc yn y Bala. Mabwysiadodd Gogledd a De fel ei gilydd ef fel eu coleg, a chyfrannodd y cymdeithasau gant gini yr un tuag at addysg eu myfyrwyr. Yn 1842, agorodd Cymdeithasfa Deheudir Cymru athrofa yn Nhrefeca yn hen gartref Howel Harris. Daeth y Parch. David Charles yn brifathro Trefeca (o 1842 hyd 1863), a'r Parch. Lewis Edwards, Bala. Wedi marwolaeth y Dr Lewis Edwards, ymddiswyddodd Dr. Thomas Charles Edwards ei brifathrawiaeth o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddod yn bennaeth Coleg y Bala yn 1891. Roedd Coleg y Bala bellach yn coleg ddiwinyddol yn unig lle danfonwyd ei myfyrwyr i golegau prifysgolion er mwyn derbyn hyfforddiant glasurol.

Yn 1872, ychwanegwyd Capel Coffa Harris at Drefeca. Cynlluniwyd hi gan R. G. Thomas, Porthaethwy. Mae'r adeilad bellach yn Goleg Trefeca, canolfan hyfforddi lleyg i Eglwys Bresbyteraidd Cymru.[5]

Yn 1905 cynigiodd David Davies, Llandinam, un o leygwyr blaenaf y Cyfundeb, adeilad mawr yn Aberystwyth yn anrheg i'r enwad i'r diben o uno De a Gogledd yn un coleg diwinyddol; ond pe byddai y naill gymdeithas neu'r llall yn gwrthod y cynnygiad, caniatawyd i'r llall gymeryd meddiant, gan roddi i'r gymdeithas a ddylai wrthod y dewisiad o ymuno yn ddiweddarach. Derbyniodd Cymdeithasfa y De, a gwrthododd Cymdeithasfa y Gogledd, y cynnyg; trowyd Coleg Trefeca yn ysgol baratoadol ar linellau sefydliad tebyg a sefydlwyd yn y Bala yn 1891.[6] Yn 1906 daeth hwn yn Goleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth o dan ei Brifathro Owen Prys.[7][8]

Amgueddfa Howel Harris[golygu | golygu cod]

Talcen adeilad yn rhan o Ganolfan Trefeca. Cyfieithiad yr arwyddair Lladin yw; 'dechrau doethineb yw ofn yr Arglwydd'

Lleolir Amgueddfa Howel Harris yng Ngholeg Trefeca. Ar agor trwy apwyntiad, mae'r arddangosion yn canolbwyntio ar fywyd Howel Harris a'r gymuned Teulu Trefeca a sefydlodd.[9]

Coleg Trefeca heddiw[golygu | golygu cod]

Mae'r adeilad bellach yn Adeilad Cofrestredig Gradd II*, a dyma oedd cartref Howel Harris, arweinydd cynnar y Methodistiaid Calfinaidd.

Mae'n cynnig cyfleusterau cynadledda da, gyda'r dewis i drefnu hunan-arlwyaeth neu cael bwyd wedi ei arlwyo.[10]

Myfyrwyr nodedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Morgan, Derec Llwyd. "Harris, Howel". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/12392.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. 2.0 2.1 "The city of Cambridge: Theological colleges | British History Online". www.british-history.ac.uk.
  3. Dissenting Academies Online: The Countess of Huntingdon's College, Trevecka (1768-1791) Archifwyd 2019-02-09 yn y Peiriant Wayback., accessed 3 April 2016
  4. "History - Westminster College History Westminster College".
  5. "Coleg Trefeca". The Presbyterian Church of Wales. Cyrchwyd 6 March 2020.
  6.  Mae un neu ragor o'r brawddegau yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddusJenkins, D. E. (1911). "Calvinistic Methodists". In Chisholm, Hugh (gol.). Encyclopædia Britannica. 5 (arg. 11th). Cambridge University Press. tt. 77–78.CS1 maint: ref=harv (link)
  7. D. Ben Rees (ed), Vehicles of Grace and Hope: Welsh Missionaries in India, 1800-1970, William Carey Library (2002) - Google Books, t.175
  8. John Venn (ed), Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge from the Earliest Times to 1900: Volume 2 From 1752 to 1900, Cambridge University Press (2011) - Google Books pg 213
  9. Methodist Heritage: Howell Harris Museum, cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016
  10. "Amdanom". Gwefan Coleg Trefeca. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]