Afon Llynfi (Powys)

Oddi ar Wicipedia
Afon Llynfi
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlan-gors Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr105 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0333°N 3.2°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO1227 Edit this on Wikidata
Map

Afon ym Mhowys sy'n llifo i mewn i Afon Gwy yw Afon Llynfi.

Mae'n tarddu gerllaw adfeilion Castell Blaenllynfi, fymryn i'r gogledd-orllewin o bentref Bwlch, ac yn llifo tua'r gogledd i lifo trwy Lyn Syfaddan. Wedi gadael y llyn, mae'n llifo i'r gorllewin o bentref Llangors a heibio Llandyfaelog Tre'r-graig, yna i'r gorllewin o bentref Trefeca. Llifa heibio Castell Bronllys, lle mae Afon Dulas yn ymuno â hi, gyda Bronllys i'r gorllewin a Talgarth i'r dwyrain. Wedi mynd heibio Pipton, ychydig i'r gorllewin o Aberllynfi, mae'n ymuno ag Afon Gwy gerllaw'r Clas-ar-Wy.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.