Capel-y-ffin

Oddi ar Wicipedia
Capel-y-ffin
Mathpentrefan, anheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanigon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.984°N 3.09°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO2631 Edit this on Wikidata
Cod postNP7 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yng nghymuned Llanigon, Powys, Cymru, yw Capel-y-ffin. Saif bron ar y ffîn a Lloegr, rhyw 8 milltir i'r de o'r Gelli Gandryll ac i'r gogledd o bentref a phriordy Llanddewi Nant Hodni. Saif ar lan Afon Honddu ym mhen draw cwm anghysbell Dyffryn Ewias, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Eglwys y Santes Fair, Capel-y-ffin. Llun gan Dara Jasumani.

Yng Nghapel-y-ffin y sefydlodd Joseph Lyne ("Y Tad Ignatius") fynachlog Fenedictaidd Anglicanaidd yn 1869. Yn ddiweddarach, daeth y fynachlog yn eiddo i Eric Gill. Roedd hostel ieuenctid adnabyddus yma, ond mae hon wedi cau bellach.