Llanddewi Nant Hodni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanddewi Nant Hodni o'r bryniau.

Pentref bychan gwledig yn Sir Fynwy yw Llanddewi Nant Hodni neu Llanddewi Nant Honddu (weithiau: Llanhonddu neu Llanhodni; Saesneg: Llanthony; weithiau Llantoni). Fe'i lleolir 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy ar ffordd fynydd sy'n arwain i Gapel-y-ffin a'r Gelli Gandryll. Saif ar lan Afon Honddu (mae enw'r pentref yn cadw'r hen ffurf ar y gair 'Honddu', sef 'Hodni').

Saif y pentref hanner ffordd i fyny cwm anghysbell Dyffryn Ewias, ar ymyl ddwyreiniol y Mynydd Du a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r tirlun o gwmpas yn drawiadol am ei unigrwydd.

Yn ymyl y pentref ceir adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni, a sefydlwyd gan yr arglwydd Normanaidd William de Lacy, arglwydd Ewias Lacy, ar droad yr 12g. Ond cyn hynny roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel clas Cymreig Llanddewi Nant Hodni. Ymwelodd Gerallt Gymro â'r priordy newydd yn 1188 ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. 'Llanantoni', a droes yn 'Llantoni' dros y blynyddoedd, oedd enw'r sefydliad Awstinaidd newydd, sy'n rhoi i'r pentref ei enw Saesneg heddiw (Llanthony).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]