Neidio i'r cynnwys

Llanelli, Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Llanelli
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,114, 3,810, 3,899 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8265°N 3.1158°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001068 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Fynwy Torfaen
Etholaeth y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map
Erthygl am y pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw hon. Am y dref o'r un enw yn Sir Gaerfyrddin, gweler Llanelli. Am ddefnyddiadau eraill o'r enw "Llanelli", gweler Llanelli (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanelli[1][2] (Saesneg: Llanelly). Saif rhwng Bryn-mawr a'r Fenni. Heblaw Llanelli ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Gilwern, Clydach a'r Darren Felen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,810.

Hyd at 1974, roedd yr ardal yma yn rhan o Sir Frycheiniog. Bu Thomas Price (Carnhuanawc) yn gurad Llanelli o 1816 hyd 1825, a sefydlodd ysgol gynradd Gymraeg yn Nhellifelen, yr unig un yng Nghymru yr adeg honno. Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn mynd trwy'r gymuned.

Mae aneddiadau'r gymuned un gynnwys Clydach, Cwm-nant-gam, Cheltenham, Darrenfelen, Gellifelen, Gilwern, Llam-march, Llanelli Hill, Maesygwartha, Twyn Wenallt, a Waunllapria.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Syr Thomas Phillips (1801–1867), cyfreithiwr, gwleidydd a dyn busnes a wasanaethodd fel Maer Casnewydd ar adeg Terfysg Casnewydd[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "PHILLIPS, Syr THOMAS (1801 - 1867), bargyfreithiwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-29.