Porth Sgiwed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Porth Sgiwed
Math Cymuned, Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.59°N 2.73°W Edit this on Wikidata
Cod OS ST499881 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
AS/au David Davies (Ceidwadwr)

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Porth Sgiwed neu Porthsgiwed (Cyfeirnod OS: ST4988); hefyd Porth Ysgewin neu Porthysgewin (Saesneg: Portskewett. Enw person yw Ysgewin, sef tarddiad y gair; yr un gair ag ysgawen, mae'n debyg. Saif i'r de-orllewin o dref Cas-gwent. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,041.

Ceir pen gollewinol Twnnel Hafren yn y gymuned yma. Uchben, mae Ail Groesfan Hafren yn cario'r draffordd M4. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer o Oes yr Haearn ac olion fila Rufeinig a theml Rufeinig. Ceir yma wrthgloddiau diweddarach hefyd, a godwyd, yn ôl traddodiad, gan Harold Godwinson wedi iddo oresgyn y rhan yma o Gymru ar ôl gorchfygu Gruffudd ap Llywelyn. Dywedir i Harold godi adeilad yma ar gyfer hela, ond i Caradog ap Gruffudd, brenin Gwent, ei ddinistrio yn 1065.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).[1][2]

Eglwys y Santes Fair, Porth Sgiwed

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad, roedd prif lys Caradog Freichfras, brenin Gwent, yma yn y 6g. Crybwyllir y lle yn y gerdd Moliant Cadwallon o'r 7g fel "Porth Esgewin". Yn ôl Gerallt Gymro, roedd Cymru yn ymestyn o Borth Wygyr, yng ngogledd Ynys Môn, i Borth Ysgewin.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Porth Sgiwed (pob oed) (2,133)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Porth Sgiwed) (220)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Porth Sgiwed) (1395)
  
65.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Porth Sgiwed) (293)
  
33.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013