Llyfr Dydd y Farn
Jump to navigation
Jump to search
Y record, ar ffurf dau lyfr anferth, o'r wybodaeth a gasglwyd yn 1085 a 1086 pan dafonodd y Brenin Wiliam I swyddogion o amgylch Lloegr i gasglu gwybodaeth am y pentrefi, y perchenogion a nifer y pentrefwyr ynddynt yw Llyfr Dydd y Farn (Saesneg: Domesday Book). Bu'r swyddogion yn ymweld â'r maenor ym mhob pentref i holi cwestiynau i'r rif, person y plwyf, a chwe gwerinwr lleol. Pwrpas yr arolwg oedd cael sylfaen ar gyfer codi trethi gan y brenin. Mae rhai lleoedd yng Nghymru, ar y ffin â Lloegr, oedd ym meddiant arglwyddi Normanaidd Y Mers yn cael eu cofnodi ynddo hefyd.
Cedwir y llawysgrif yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, Llundain Fwyaf. Yn 2011, gwnaeth y wefan Open Domesday y wybodaeth yn y llawysgrif ar gael ar-lein.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Open Domesday: About; adalwyd 8 Rhagfyr 2017.
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Llyfr Dydd y Farn, ar Yr Archifau Cenedlaethol.
- (Saesneg) Gwefan Open Domesday