Llanddewi Ysgyryd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanddewi Ysgyryd
Village Hall, Llanddewi Skirrid - geograph.org.uk - 215799.jpg
Neuadd y Pentref, Llanddewi Ysgyryd.
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8478°N 2.9586°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
AS/au David Davies (Ceidwadwr)

Pentref a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy yw Llanddewi Ysgyryd (Seisnigiad: Llanddewi Skirrid). Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni yng ngogledd y sir.

Enwir y pentref ar ôl eglwys y plwyf, a gysegrir i Ddewi Sant. Cyfeiria 'Ysgyryd' at fryn Ysgyryd Fawr (486 metr - 1596 troedfedd), sy'n codi i'r gogledd. Mae'r bryn a'r ardal yn gorwedd o fewn ffin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).[1][2]

Enwogion o'r ardal[golygu | golygu cod y dudalen]


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014