Neidio i'r cynnwys

Llanddingad

Oddi ar Wicipedia
Llanddingad
Eglwys Dingad Sant, Llanddingad.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfihangel Troddi Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.79°N 2.79°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO457102 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddSir Fynwy Torfaen
Etholaeth y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel Troddi, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddingad[1] (hefyd Llandingad; Saesneg: Dingestow).[2] Fe'i lleolir ger ffordd yr A40, rhwng Rhaglan i'r gorllewin a Threfynwy i'r dwyrain, ar lôn fynydd sy'n arwain dros y bryniau i bentref Llandeilo Gresynni. Llifa afon Troddi heibio'r pentref.

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Dingad (c. 5g), un o feibion Brychan, brenin Brycheiniog, yn ôl traddodiad.[3] Cyfeirir at yr eglwys yn Llyfr Llandaf am iddi gael ei rhoi gan Tudmab fab Pawl i Landaf.

Codwyd castell ger Llanddingad gan y Normaniad Ranulph de Poer, siryff Henffordd, ar ddechrau'r 1180au. Yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru, mae Gerallt Gymro yn adrodd fel y bu i ryfelwyr Gwent ymosod ar y castell i geisio dial ar laddfa ysgeler arnynt gan Wiliam de Braose yn 1177. Lladdwyd de Poer a rhai o'r amddiffynwyr eraill ond llwyddodd de Braose i ddianc.[4]

Mae gan y pentref le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am i Frut Dingestow, un o'r testunau Cymraeg Canol pwysicaf o Historia Regum Britanniae (testun Lladin) Sieffre o Fynwy gael ei diogelu yno (ac efallai ei sgwennu yno).[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  4. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938).
  5. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942), rhagymadrodd.