Historia Regum Britanniae

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) yw Historia Regum Britanniae ('Hanes Brenhinoedd Prydain'), a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136. Dyma'r llyfr fu'n bennaf gyfrifol am ymledu chwedl y Brenin Arthur ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ffug hanes a geir yn y llyfr, a ysgrifenwyd yn Lladin, ond roedd ei ddylanwad yn aruthrol. Cyfeirir ato yn aml fel Brut Sieffre (neu'r Brut) a chafwyd sawl trosiad Cymraeg Canol dan yr enw Brut y Brenhinedd: fersiwn Brut Dingestow yw'r testun mwyaf adnabyddus. Ceir cyfieithiadau mewn sawl iaith arall hefyd.

Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur

Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroia, disgynnydd Aeneas, hyd farwolaeth y brenin Cadwaladr yn y 7fed ganrif. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn.

Cynnwys[golygu]

Mae'r Historia yn cychwyn gyda disgrifiad blodeuog, haeddianol enwog, o Brydain fel "Yr Ynys Wen", ynys ffrwythlon ond anghyfanedd ar y dechrau "yn yr eigion gorllewinol rhwng Ffrainc ac Iwerddon", ac yn rhoi crynhoad o'i hanes a'i chyflwr cyfoes.

Yn yr adran gyntaf cawn hanes yr arwr Aeneas Ysgwydwyn o Gaerdroia, y ceir ei hanes gan Fyrsil yn yr Aenid, yn ymsefydlu yn yr Eidal ar ôl Rhyfel Caerdroia. Caiff ei ddisgynydd Brutus ei alltudio o Gaerdroia. Aiff ef a'i ddilynwyr i grwydro y Môr Canoldir ac, ar ôl cael gweledigaeth gan y dduwies Diana, mae'n hwylio i'r "Ynys Wen" sy'n cael ei henwi'n Brydain ar ei ôl (Prydain="gwlad Brutus" yn ôl Sieffre). Rhennir yr ynys yn dair teyrnas ar farwolaeth Brutus: caiff ei fab hynaf Locrinus deyrnas Lloegr, mae Albanactus yn cael Yr Alban a Camber yn cael Cymru (Cambria).

Mae'r ail adran yn rhestr ddigon ddiflas, foel, ac anysbrydoledig ar y cyfan o frenhinoedd ffug y Brydain Geltaidd, ond mae'n cynnwys rhai hanesion difyr, wedi eu codi o draddodiad brodorol yn ôl pob tebyg, e.e. am y brenin Llŷr yn rhannu ei deyrnas rhwng ei tair merch (hanes a ddefnyddwyd gan Shakespeare yn ei ddrama King Lear), a Dyfnwal Moelmud a'i feibion Belinus a Brennius, sy'n ymladd rhyfel cartref cyn mynd yn eu blaen i ymosod ar ddinas Rhufain (seiliedig ar hanes Brennus yn cipio Rhufain yn 390 CC).

Daw'r llyfr yn nes at hanes go iawn wrth disgrifio glaniad Iwl Cesar ym Mhrydain a gwrthsafiad Cassibelanus, a hefyd hanes Cynfelyn (Cunobelinus, sail Cymbeline Shakespeare) ac eraill.

Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael, daw Vortigern (Gwrtheyrn) i rym. Mae'n gwahodd yr Eingl-Sacsoniaid dan Hengist a Hors i'w gynorthwyo yn erbyn y Pictiaid ac eraill fel milwyr cyflog, ond codant yn ei erbyn gan ei dwyllo a lladd arweinwyr y Brythoniaid yn nos Brad y Cyllyll Hirion, diolch i ystryw Ronwen. Dielir ar y Saeson gan Eidol a cheir ysbaid o atgyfnerthi dan Aurelius Ambrosius a'i frawd Uthr Pendragon, gyda chymorth y dewin Myrddin. Mae mab Uthr y Brenin Arthur yn curo'r Saeson mewn cyfres o frwydrau ac yn sefydlu ymerodraeth dros y rhan fwyaf o orllewin a gogledd Ewrop. Dyma'r Oes Aur. Mae'n para hyd pan eilw'r ymerawdwr Lucius Tiberius i Brydain dalu teyrnged i Rufain unwaith eto. Mae Arthur yn gorchyfug Lucius yng Ngâl, ond yn y cyfamser mae ei nai twyllodrus ac uchelgeisiol Medrawd yn cipio gorsedd yr Ynys Wen. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach ac yn trosgwlyddo'r deyrnas i'w nai Cystennin.

Gyda Arhur yn farw dychwela'r Saeson ond yn fwy nerthol nag erioed. Mae'r Brythoniaid yn parhau i'w hwrthwynebu ond er gwaethaf ymdrechion brenhinoedd dewr maent yn colli tir. Mae'r hanes yn gorffen gyda marw Cadwaladr, a'r Saeson yn hawlio penarglwyddiaeth Prydain.

Cefndir a dylanwad[golygu]

Llyfr cyntaf Sieffre oedd y Prophetiae Merlini ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin Myrddin ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw Cymraeg, a chafodd dderbyniad brwd. Tua blwyddyn neu ddwy ar ôl hynny cyhoeddwyd yr Historia Regum Britanniae, ond mae'n debyg fod Sieffre wedi bod yn ei ysgrifennu am rai blynyddoedd cyn hynny.

Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroia, disgynnydd Aeneas, hyd farwolaeth y brenin Cadwaladr yn y 7fed ganrif. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau Gildas (De Excidio Britanniae), Beda a Nennius, ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.

Bu dylanwad gwaith Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Ymddengys mai fel dilyniant i'r Historia Regum Britanniae y bwriadwyd Brut y Tywysogion. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y Canol Oesoedd gyda phrifddinas yng Nghaerllion-ar-Wysg ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o sifalri. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol Theophilus Evans Drych y Prif Oesoedd.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

Ceir nifer fawr o lyfrau ar yr Historia, yn olygiadau ysgolheigaidd, cyfeithiadau ac astudiaethau. Detholiad yn unig a geir yma.

Y testun a chyfieithiadau[golygu]

  • Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Caerdydd, 1942)
  • Brynley F. Roberts (gol.), Brut y Brenhinedd (Dulyn, 1984)
  • Lewis Thorpe (cyf.), The History of the Kings of Britain (Penguin Books: Llundain, 1966). ISBN 0-14-044170-0
  • N. Wright, ed., The Historia regum Britannie of Geoffrey of Monmouth. 1, Bern, Burgerbibliothek, MS. 568 (Cambridge, 1984)
  • N. Wright, ed., The historia regum Britannie of Geoffrey of Monmouth. 2, The first variant version : a critical edition (Cambridge, 1988)
  • J. C. Crick, The historia regum Britannie of Geoffrey of Monmouth. 3, A summary catalogue of the manuscripts (Cambridge, 1989)
  • J. C. Crick, The historia regum Britannie of Geoffrey of Monmouth. 4, Dissemination and reception in the later Middle Ages (Cambridge, 1991)
  • J. Hammer, ed., Historia regum Britanniae. A variant version edited from manuscripts (Cambridge, MA, 1951)
  • A. Griscom and J. R. Ellis, ed., The Historia regum Britanniæ of Geoffrey of Monmouth with contributions to the study of its place in early British history (London, 1929)

Astudiaethau[golygu]

  • A. O. H. Jarman, Sieffre o Fynwy (Caerdydd, 1966).
  • Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
  • Brynley F. Roberts, Geoffrey of Monmouth and Welsh Historical Tradition, Nottingham Medieval Studies, 20 (1976), 29-40.
  • John Jay Parry a Robert Caldwell. 'Geoffrey of Monmouth', yn Arthurian Literature in the Middle Ages, Roger S. Loomis (gol.). Clarendon Press: Prifysgol Rhydychen. 1959. ISBN 0-19-811588-1
  • J.S.P. Tatlock. The Legendary History of Britain: Geoffrey of Monmouth's Historia Regum Britanniae and its early vernacular versions. University of California Press. Berkeley. 1950.
  • M. D. Reeve, 'The transmission of the Historia regum Britanniae ', in Journal of Medieval Latin 1 (1991), 73–117