Brad y Cyllyll Hirion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Brad (gwahaniaethu).

Digwyddiad chwedlonol (yn ôl pob tebyg) a leolir tua'r 5fed ganrif ac a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius yw Brad y Cyllyll Hirion.

Nennius a Gildas[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhelaethiad sydd gan Nennius at y traddodiadau a geir yng ngwaith Gildas ynglŷn â Gwrtheyrn, brenin y Brythoniaid a'i serch at Alys Rhonwen (neu Ronwen), ferch hudolus ond twyllodrus Hengist, arweinydd y Sacsoniaid. Yn ôl Nennius gwahoddodd Hengist Wrtheyrn a'i bendefigion i wledd yn ei lys. Ond ystryw oedd y cyfan i lofruddio'r Brythoniaid er mwyn meddianu Ynys Prydain. Cytunodd Gwrtheyrn, dall yn ei gariad at Ronwen, ond ar yr amod fod pawb yn ddiarfog yn y wledd. Ar air penodedig gan Hengist (Nemet eour Saxes! "Gafaelwch yn eich cyllyll!"), tynnodd y Saeson, oedd yn eistedd bob yn ail â'r Brythoniaid wrth y byrddau, eu cyllyll hirion a lladd tri chant o'r Brythoniaid. Dim ond un pendefig a lwyddodd i ddianc o'r gyflafan, sef Eidol, Iarll Caerloyw. Ni fu dewis gan Wrtheyrn wedyn ond ildio de Prydain i gyd i'r Sacsoniaid a ffoi a gweddill ei bobl i Gymru.

Haneswyr traddodiadol diweddarach[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychwanegodd Sieffre o Fynwy gryn dipyn o liw i'r stori yn ei gyfrol enwog Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain). Daeth yn rhan stoc o waith hanesywr diweddarach yn y traddodiad Brutaidd. Yn y 18fed ganrif ceir yr hanes eto, wedi'i adrodd yn rymus, yn llyfr dylanwadol Theophilus Evans Drych y Prif Oesoedd.

Ffuglen a chelf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r digwyddiad wedi ysbrydoli sawl artist, e.e. Henry Fuseli yn y 1770au.

Brad y Llyfrau Gleision[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r enw gwawdlyd Brad y Llyfrau Gleision, a fathwyd gan R.J. Derfel yn 1854 i ddisgrifio adroddiad y comisiwn i ymwchilio cyflwr yr iaith Gymraeg yn 1847, yn fwysair ar yr enw Brad y Cyllyll Hirion.

Yr Almaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir chwedl gyffelyb am y Sacsoniaid cynnar yn yr Almaen hefyd, e.e. yng nghronicl yr hanesydd Almaeneg Widukind. Diddorol hefyd yw'r enw a roddwyd ar y cynllwyn yn erbyn Hitler yn 1934, sef Noson y Cyllyll Hirion.