Sieffre o Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur

Roedd Sieffre o Fynwy, Lladin Galfridus Monemutensis, (c.1100 - c.1155) yn glerigwr fu'n Esgob Llanelwy. Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur llyfrau Lladin am hanes cynnar Ynys Prydain, yn enwedig am y Brenin Arthur. Er nad oes dim gwerth iddynt fel hanes, cawsant ddylanwad enfawr yng Nghymru a thrwy orllewin Ewrop.

Bywyd[golygu]

Ni wyddys ymhle y ganed Sieffre, ond mae ei enw yn awgrymu mai yn ne—ddwyrain Cymru y ganed ef. Mae ei ddisgrifiad o Gaerllion yn ei Historia Regum Britanniae yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd â'r ardal. Roedd ei deulu yn wreiddiol o Lydaw. Aeth i Brifysgol Rhydychen ac ymddengys ei enw ar freinlen abaty Osney, Rhydychen yn 1129 ac ar chwe dogfen arall o ardal Rhydychen rhwng y flwyddyn honno a 1151. Disgrifir ef fel magister yn rhai o'r dogfennau hyn.

Ar 24 Chwefror 1152 cysegrwyd ef yn Esgob Llanelwy gan Archesgob Caergaint. Nid oes cofnod iddo ymweld â'i esgobaeth, oedd yn rhan o deyrnas Owain Gwynedd. Bu Owain yn dadlau'n ffyrnig ag Archesgob Caergaint ynglŷn â phenodiad Esgob Bangor; nid oes cofnod a oedd penodiad Sieffre i Lanelwy yn dderbyniol iddo. Yn ôl y croniclau Cymreig bu farw yn 1155.

Gweithiau[golygu]

Llyfr cyntaf Sieffre oedd y Prophetiae Merlini ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin Myrddin ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw Cymraeg, a chafodd dderbyniad brwd.

Gwaith enwocaf Sieffre oedd yr Historia Regum Britanniae (Hanes Brenhinoedd Prydain) a ymddangosodd yn dechrau'r flwyddyn 1136. Mae'n adrodd hanes Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroea, disgynnydd Aeneas, hyd farwolaeth Cadwaladr yn y 7fed ganrif. Bu dylanwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau Gildas (De Excidio Britanniae), Beda a Nennius, ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.

Rhwng tua 1149 a 1151 ysgrifennodd Sieffre gerdd Ladin o 1538 o linellau, y Vita Merlini ('Buchedd Myrddin'), yn ailadrodd hanes Myrddin gan dynnu ar y traddodiadau Cymreig amdano.

Bu dylanwad gweithiau Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Cafodd yr Historia ei gyfieithu i lawer o ieithoedd Ewrop, gan gynnwys y Gymraeg dan y teitl Brut y Brenhinedd. Ymddengys mai fel dilyniant i'r Historia Regum Britanniae y bwriadwyd Brut y Tywysogion. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu'r ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y Canol Oesoedd gyda phrifddinas yng Nghaerllion-ar-Wysg ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o sifalri. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol Theophilus Evans Drych y Prif Oesoedd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953)
  • Geoffrey of Monmouth. The History of the Kings of Britain. Translated, with introduction and index, by Lewis Thorpe. Penguin Books: London, 1966. ISBN 0-14-044170-0
  • Brynley F. Roberts. "Geoffrey of Monmouth, Historia Regum Britanniae and Brut y Brenhinedd". Yn The Arthur of the Welsh: The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan R. Bromwich, A. O. H.Jarman a Brynley F. Roberts, tt.97-116. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).
  • John Jay Parry and Robert Caldwell. "Geoffrey of Monmouth" in Arthurian Literature in the Middle Ages, Roger S. Loomis (ed.). Clarendon Press: Oxford University. 1959. ISBN 0-19-811588-1

Cyfeiriadau[golygu]