Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Am y bardd o'r 16eg ganrif, gweler Owain Gwynedd (bardd).
Owain Gwynedd
Ganwydc. 1100, 1100 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1170, 1170 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Owain Edit this on Wikidata
PriodCristin ferch Gronw, Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn Edit this on Wikidata
PlantHywel ab Owain Gwynedd, Angharad ferch Owain Gwynedd, Dafydd ab Owain Gwynedd, Rhodri ab Owain Gwynedd, Madog ab Owain Gwynedd, Maelgwn ab Owain Gwynedd, Cynan ab Owain Gwynedd, Iefan ab Owain Gwynedd, Rhun ab Owain Gwynedd, Iorwerth Drwyndwn, Gwenllian ferch Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Aberffraw Edit this on Wikidata
Arfbais Owain Gwynedd.
Baner Gwynedd

Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (110028 Tachwedd 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth ac hefyd Tywysog Cymru.

Gelwid ef yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owain ap Gruffudd arall a deyrnasai yn yr un cyfnod, Owain Cyfeiliog. Gwelodd ei deyrnasiad adfywiad mawr yng Ngwynedd a Chymru ac mae Brut y Tywysogion yn cyfeirio ato wrth yr enw Owain Fawr.

Llinach[golygu | golygu cod]

Roedd Owain yn fab i frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, a'i wraig Angharad ferch Owain, merch Owain ab Edwin. Ar ochr ei dad, roedd o linach Rhodri Mawr, tra'r oedd ei nain Ragnell yn ferch i Olaf Arnaid o deulu brenhinol Daniaid Dulyn. Owain oedd yr ail o dri mab Gruffudd ac Angharad.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Erbyn tua 1118 yr oedd Gruffudd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion Cadwallon ap Gruffudd, yr hynaf o feibion Gruffudd, Owain ac yn ddiweddarach Cadwaladr ap Gruffudd, ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn 1123, ymosododd Cadwallon ac Owain ar gantref Meirionnydd, a oedd yn perthyn i Deyrnas Powys ar y pryd. Yn 1124 cipiasant gantref Dyffryn Clwyd o ddwylo Powys a'i adfer i Wynedd. Mewn ymgyrch ddiweddarach, lladdwyd Cadwallon gan fyddin o Bowys mewn brwydr yng nghwmwd Nanheudwy, ger Llangollen, yn 1132 (gweler Brwydr Nanheudwy).[1] Atalwyd cynnydd tiriogaethol Gwynedd am gyfnod ar ôl hynny.

Yn 1136 enillodd Owain a Chadwaladr gyda Gruffydd ap Rhys tywysog Deheubarth fuddugoliaeth fawr dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, ger Aberteifi, a meddiannu Ceredigion.

Teyrnasiad cynnar (1137 - 1153)[golygu | golygu cod]

Etifeddodd Owain y rhan fwyaf o'r deyrnas ar farwolaeth Gruffudd yn 1137, ond gyda Cadwaladr yn dal Meirionnydd a Cheredigion. Yn 1143 lladdodd gwŷr Cadwaladr Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, trwy frad. Roedd amheuaeth gref fod hyn ar orchymyn Cadwaladr. Ymatebodd Owain trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd tiroedd Cadwaladr yng Ngheredigion oddi arno. Ffôdd Cadwaladr i Iwerddon lle cyflogodd lynges gan Lychlynwyr Dulyn. Glaniodd yn Abermenai yn 1144 i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a'i frawd. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o'i diroedd ym Meirionnydd gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan. Wedi cweryl arall rhwng Cadwaladr ac Owain, alltudiwyd Cadwaladr i Loegr.

Yn ystod rhan gyntaf teyrnasiad Owain, roedd rhyfel cartref yn Lloegr rhwng Steffan, brenin Lloegr a'r Ymerodres Matilda. Rhoddodd hyn gyfle i Owain ymestyn ffiniau Gwynedd tua'r dwyrain. Yn 1146 cipiodd Owain gastell yr Wyddgrug a thua 1150 cipiodd Rhuddlan. Roedd hyn yn peryglu tiroedd Madog ap Maredudd o Bowys a Ranulf de Gernon, 4ydd Iarll Caer, a gwnaethant gytundeb a'i gilydd yn erbyn Owain. Fodd bynnag, gorchfygodd Owain hwy ym Mrwydr Coleshill.

Brwydro a Harri II (1154 - 1170)[golygu | golygu cod]

Yn y diwedd, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Steffan a Matilda; sef fod Steffan i fod ar yr orsedd hyd ei farwolaeth, ond mai mab Matilda oedd i'w olynu. Daeth ef i'r orsedd yn 1154 fel Harri II. Ceisiodd Harri II oresgyn Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 gyda byddin o tua 30,000 o filwyr, a chyda chefnogaeth Madog ap Maredudd o Bowys a brawd Owain, Cadwaladr ap Gruffudd. Bu bron i Harri gael ei ladd ym Mrwydr Cwnsyllt, ar safle ger Bryn y Glo, lle bu'r Cymry'n fuddugol. Wedi'r frwydr, enciliodd Owain tua'r gorllewin. Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladd Henry FitzRoy, mab gordderch Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Er i Owain gael cryn lwyddiant yn filwrol, gwnaeth gytundeb heddwch a'r brenin, gan dalu gwrogaeth iddo a chytuno y byddai Cadwaladr ap Gruffudd yn cael ei diroedd yn ôl. Collodd Owain ei afael ar Degeingl a Iâl.

Bu farw Madog ap Maredudd yn 1160, gan roi cyfle i Owain ymestyn ei ffiniau tua'r dwyrain eto. Yn 1163, gwnaeth gynhrair a Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth. Ymosododd Harri II eto yn 1163 a 1165. Yn 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw ymreolaeth y Gymru frodorol yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Ymgynullodd byddin yr Angefiniaid yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arhosai’r Cymry yr ochr arall i Fynydd y Berwyn. Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru. Roedd mintai o’r Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Angefiniaid gyrraedd naill ai Aberceiriog neu Ddyffryn Ceiriog, ymosodasant ar flaengad byddin yr Angefiniaid gyda nifer o ddewrion yn syrthio ar y ddwy ochr. Gellir cyfeirio at y rhagod fel Brwydr Coed Ceiriog. Yn bwysicach byth roedd y tywydd yn erbyn Harri. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben.

Wedi methiant yr ymgyrch yma, ni cheisiodd y brenin ymgyrchu yn erbyn Cymru eto. Yn 1167, cafodd Owain gymorth Rhys ap Gruffudd i gipio castell Rhuddlan.[2]

Perthynas â'r eglwys[golygu | golygu cod]

Daeth Owain i wrthdrawiad a'r Pab ac Archesgob Caergaint, Thomas Becket, am ddau reswm. Un rheswm oedd fod Owain yn mynnu rheolaeth dros yr eglwys yn ei deyrnas, yn arbennig penodiad Esgob Bangor. Ar farwolaeth yr esgob Meurig, penododd Owain Arthur o Enlli i'r esgobaeth tua 1165. Gwrthododd Archesgob Caergaint ei gysegru, felly trefnodd Owain i Arthur gael ei gysegru yn Iwerddon.

Yr ail reswm oedd fod Owain wedi priodi ei gyfnither, Cristin, rhywbeth a waherddid gan ddeddfau'r Eglwys. Rhoddwyd pwysau ar Owain i ysgaru Cristin, ond gwrthododd, ac o ganlyniad cafodd ei ysgymuno gan y Pab.

Bu farw Owain Gwynedd ar yr 28ain o Dachwedd 1170, a chafodd ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor er ei fod yn dal wedi ei esgymuno. Ymddengys i'w gorff gael ei symud o'r eglwys i'r fynwent yn ddiweddarach.

Olyniaeth[golygu | golygu cod]

Priododd Owain ddwywaith, a bu ganddo nifer o blant gordderch gan ferched eraill hefyd. Ei wraig gyntaf oedd Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn. Cafodd ddau fab ganddi hi, Maelgwn ab Owain Gwynedd ac Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr. O'i ail briodas, a Cristin, cafodd dri mab, yn cyynnwys Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri ab Owain Gwynedd. Ymhlith ei blant eraill, cafodd ddau fab gan Wyddeles o'r enw Pyfog, sef Hywel ab Owain Gwynedd a Rhun ab Owain Gwynedd.

Ymddengys mai Rhun oedd ffefryn ei dad, ac mai ef a fwriadwyd fel ei olynydd. Fodd bynnag, bu ef farw yn gynamserol yn 1146. Cred rhai ysgolheigion fod Hywel wedi ei fwriadu fel olynydd Owain yn dilyn marwolaeth ei frawd. Fodd bynnag, pan fu farw Owain, gwrthwynebwyd Hywel gan feibion Cristin, Dafydd a Rhodri. Ffôdd Hywel i Iwerddon, a dychweld gyda byddin i geisio hawlio'r deyrnas, ond gorchfygwyd ef a'i ladd gan wŷr Dafydd a Rhodri ym Mrwydr Pentraeth. Rhannwyd y deyrnas rhwng Dafydd a Rhodri.

Meibion[golygu | golygu cod]

Cafodd Owain o leiaf saith o feibion, sef:

Nid oes sicrwydd fod Madog ab Owain Gwynedd yn gymeriad hanesyddol.

Llinach Tywysogion Gwynedd[golygu | golygu cod]

 
 
 
 
 
 
 
 
Iago ab Idwal ap Meurig
c. 1023-1039
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Cynan ab Iago
m. 1060
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffydd ap Cynan
1055-1081-1137
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Gwynedd
1100-1137-1170
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Hywel ab Owain Gwynedd
c. 1170
 
Iorwerth Drwyndwn
1145-1174
 
Dafydd ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
 
Maelgwn ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1173
 
Rhodri ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1195-1240
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
16. Idwal ap Meurig ap Idwal Foel
 
 
 
 
 
 
 
8. Iago ab Idwal ap Meurig
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
4. Cynan ab Iago
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
2. Gruffudd ap Cynan
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
20. Sigtrygg Silkbeard
 
 
 
 
 
 
 
10. Amlaíb mac Sitriuc
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
21. Sláine ferch Brian Boru
 
 
 
 
 
 
 
5. Ragnhilda o Iwerddon
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
1. Owain Gwynedd
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
24. Einion ab Owain
 
 
 
 
 
 
 
12. Edwin ab Einion
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
6. Owain ab Edwin
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
3. Angharad ferch Owain
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Canwyd clodydd Owain gan nifer o feirdd, yn arbennig Gwalchmai ap Meilyr, oedd yn fardd llys iddo. Ystyrir Marwnad Owain (1170) yn un o gerddi gorau Cynddelw Brydydd Mawr. Canodd Llywelyn Fardd iddo hefyd. Cred llawer o ysgolheigion mai Owain oedd yn gyfrifol am gomisiynu bywgraffiad o'i dad, Historia Gruffud vab Kenan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977), tt. xxvii-xxviii.
  2. J.E. Lloyd History of Wales t. 519