Gwalchmai ap Meilyr
Gwedd
| Gwalchmai ap Meilyr | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 g Teyrnas Gwynedd |
| Bu farw | 12 g Teyrnas Gwynedd |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Blodeuodd | 1130 |
| Plant | Meilyr ap Gwalchmai |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Gwalchmai (gwahaniaethu)
Bardd Cymraeg y cysylltir ef a'i deulu â Threwalchmai ym Môn oedd Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130 - 1180). Mae ymhlith y cynharaf o'r Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion).[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd yn fardd llys i Owain Gwynedd (Owain ap Gruffudd) ac i'w frodyr a chanai hefyd i Ddafydd ab Owain Gwynedd ac i Rodri ab Owain Gwynedd, dau o feibion Owain. Roedd Gwalchmai yn fab i Feilyr Brydydd ac yn dad i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai a Einion ap Gwalchmai a hefyd, efallai, i'r bardd Elidir Sais.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Ei gerdd bwysicaf efallai yw Gorhoffedd Gwalchmai, un o gerddi Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Testun
[golygu | golygu cod]- Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion, gol. J. E. Caerwyn Williams (Caerdydd, 1994).
Erthygl
[golygu | golygu cod]- Erthygl gan Tomos Roberts yn Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Y Bala, 1979).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]