Einion ap Madog ap Rhahawd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Einion ap Madog ap Rhahawd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1237 Edit this on Wikidata

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn ail chwarter y 13g oedd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237). Roedd yn fardd llys yn oes Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd.[1]

Llinach[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig a wyddys am fywyd personol Einion. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd diweddarach Gruffudd ab yr Ynad Coch, a ganodd farwnad enwog i'r tywysog Llywelyn ap Gruffudd. Enwir tad Einion, Madog ap Rhahawd, yn y testun achyddol 'Bonedd Gwŷr Arfon' a chofnodir 'gwely (tir teuluol) Gwyrion Rhahawd' yn ardal Dinas Dinlle, Uwch Gwyrfai, ar ddechrau'r 14g.[1]

Cerdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond un gerdd o waith Einion ap Madog ap Rhahawd sydd wedi goroesi. Mae'r testun ar glawr yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach sy'n deillio o'r llawysgrif honno. Mae'n awdl foliant fer i Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Cafodd ei chyfansoddi ar ôl i Gruffudd gael ei ryddhau o gaethiwed yn 1234 a chyn ei ail-garcharu yn 1239, cyfnod pan reolai Gruffudd dros ei dir etifeddol yn Llŷn ac Eifionydd a rhan o Bowys, dan awdurdod ei dad, â'i lys yng Nghastell Cricieth yn ôl pob tebyg.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gruffydd Aled Williams (gol.), 'Gwaith Einion ap Madog ap Rhahawd'.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch