Castell Cricieth

Oddi ar Wicipedia
Castell Cricieth
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1230 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCricieth Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr48 metr, 47.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9161°N 4.2325°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN015 Edit this on Wikidata

Castell canoloesol Cymreig yw Castell Cricieth, sy'n sefyll ar glogwyn ar lan Bae Tremadog, ar ymyl tref Cricieth, Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae gan y castell dŷ porth cadarn a thri thŵr a gysylltir gan fur amgylchynnol. Mae wedi'i gofrestru gan fel Gradd 1 ac yn cael ei warchod a'i gynnal gan Cadw.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyfnod y ddau Lywelyn[golygu | golygu cod]

Codwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Lywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd. Dechreuodd Llywelyn Fawr ar y gwaith tua'r flwyddyn 1230 gan godi tŷ porth trawiadol, tŵr petryal de-ddwyreiniol a llenfur oddi amgylch y cwrt mewnol. Ymddengys na ddefnyddiwyd y safle cyn hynny. Mae un traddodiad yn honni fod Llywelyn ap Iorwerth wedi cael ei garcharu yn y castell am gyfnod byr gan ei frawd Dafydd yn ystod y brwydro dros olyniaeth coron Gwynedd.

Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr. Cynhelid ei lys ar gylch yn y castell ar 26 Chwefror, 1274, a diau iddo gael ei ddefnyddio at y perwyl hwnnw ganddo fo a'i ragflaenwyr sawl gwaith cyn hynny.

Y castell o gyfeiriad Pwllheli

Ym meddiant Coron Lloegr[golygu | golygu cod]

Cafodd y castell ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei ail ryfel ar Gymru (1282 - 83). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).

Yn ail hanner y 13g y marchog enwog Syr Hywel y Fwyall oedd Cwnstabl (ceidwad) y castell.

Gwrthryfel Glyn Dŵr[golygu | golygu cod]

Yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy J.G. Williams, Betws Hirfaen (gw. isod).

Disgrifiad Iolo Goch o'r castell[golygu | golygu cod]

Castell Cricieth

Canodd y bardd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel y Fwyall, rywbryd yn y 1370au efallai. Erbyn yr amser hynny roedd y castell wedi troi'n llys i'r uchelwr lleol o Gymro. Disgrifia Iolo'r castell uwchben tonnau geirw'r môr, y gwŷr wrth y byrddau'n chwareu gemau a'r merched yn llunio brodwaith wrth i'r haul disgleirio trwy'r ffenestri gwydr (peth prin iawn yn y cyfnod hwnnw oedd gwydr)[1]:

Cyntaf y gwelaf mewn gwir
Caer fawrdeg acw ar fordir,
A chastell gwych gorchestawl,
A gwŷr ar fyrddau, a gwawl,
A glasfor wrth fur glwysfaen,
A geirw am groth tŵr gwrm graen...
A'i llawforynion ton teg --
Ydd oeddynt hwy bob ddeuddeg
Yn gwau sidan glân gloywliw
Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw.[1]

Oriel luniau[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983).
  • J.G. Williams, Betws Hirfaen (Dinbych, 1968)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Enid Roberts, Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).