Castell Dolforwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Dolforwyn.

Castell Cymreig ger y Drenewydd ym Mhowys yw Castell Dolforwyn. Saif ar fryn isel mewn safle strategol yn hen gantref Cedewain yn ymyl Afon Hafren, gyferbyn â'r Drenewydd.

Hanes[golygu]

Castell Dolforwyn

Codwyd Castell Dolforwyn gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog Cymru, yn y flwyddyn 1273 pan oedd ar anterth ei rym. Roedd tref fechan yn ymyl y castell a adeiladwyd ar yr un adeg â'r castell ei hun, mae'n debyg.

Cododd Llywelyn y castell fel datganiad gwleidyddol, fel petai, yn hytrach nag am resymau milwrol amlwg. Roedd yn wynebu'r Drenewydd a oedd, gyda'i chastell, yn un o drefi Normanaidd pwysicaf y Mers, ac felly roedd yn ddatganiad eglur o hawliau Llywelyn fel Tywysog Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad gan weision y Goron Seisnig nad oedd ganddo'r hawl i godi castell yn y cyffiniau.

Syrthiodd y castell yn fuan i'r Saeson yn rhyfel 1276-77; ymddengys na fu gan y tywysog unrhyw fwriad o wastraffu dynion ac adnoddau yno. Ildiodd y garsiwn i Henry Lacy a Roger Mortimer ar 31 Mawrth, 1276. Rhoddodd y Saeson y castell i'w cynghreiriad Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys. Syrthiasai'r castell yn adfeilion erbyn diwedd y 14eg ganrif.

Olion[golygu]

Yn ôl rhestr a luniwyd yn 1322, roedd yr adeiladau o fewn y castell ei hun yn cynnwys capel, neuadd, Siambr Arglwyddes, cegin, bragdy a becws.

Nid oes llawer i'w weld ar y safle erbyn heddiw. Ambell lwyfan bridd yn unig a welir o'r dref. Ceir olion ward hirsgwar â llenfur o'i amgylch, tŵr crwn yn y pen gogledd-ddwyreiniol ac un hirsgawr arall yn y pen deheuol.

Cadwraeth a mynediad[golygu]

Mae'r safle ym meddiant Cadw a cheir mynediad yn rhad ac am ddim. Mae'n gorwedd 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd a gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr o fwthyn Yew Tree, i'r gorllewin o bentref bach Aber-miwl (map: SO 153 950).

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)

Dolenni allanol[golygu]


Cestyll Tywysogion Gwynedd Arms of Llywelyn.svg
Abergwyngregyn | Castell Caergwrle | Castell Carndochan | Castell Carn Fadryn | Castell Prysor | Castell y Bere | Castell Cricieth | Castell Cynfael | Castell Degannwy | Castell Dinas Brân | Castell Dinbych | Castell Deudraeth | Dinas Emrys | Castell Dolbadarn | Castell Dolforwyn | Castell Dolwyddelan | Castell Ewlo | Tomen y Rhodwydd