Castell Dinas Brân

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Dinas Brân
Golygfa o'r castell o'r gogledd orllewin
Castell Dinas Brân yn 1770; llun gan Richard Wilson

Mae Castell Dinas Brân yn fryngaer (uchder 310m) ac yn gastell canoloesol ger Llangollen, Sir Ddinbych. Saif y castell ar gopa mynydd uwchlaw dyffryn Afon Dyfrdwy (maint yr safle: tua 1.5ha). Credir mai Gruffudd Maelor II (a elwir hefyd yn Gruffudd ap Madog; 1236 - 1269) a gododd y castell carreg yn wreiddiol.

Golygfa o'r De

Bryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawdd a ffos wedi eu hadeiladu yn Oes yr Haearn yw'r unig olion sydd i'w gweld heddiw. Mae'n bosibl bod adeiladau pren yn y bryngaer yn yr 8g, ond does dim olion ohonynt heddiw. Mae yna ddamcaniaeth fod Eliseg yn meddiannu Castell Dinas Brân yn y cyfnod hwnnw.

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Dinorwig; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Castell[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd y castell yn wreiddiol gan Gruffydd Maelor II y castell tua diwedd y 1260au, a datblygwyd ef ymhellach gan nifer o dywysogion Powys Fadog.

Llosgwyd ef gan y Cymry yn ystod y rhyfeloedd rhwng Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac Edward I, brenin Lloegr. Cipiwyd y castell gan Henry de Lacey, iarll Lincoln, yn 1277. Bwriadai Henry de Lacey oed ailadeiladu'r castell, ond nid oedd Edward yn cytuno â hynny.

Ym 1282, yn ystod ail ymgyrch Edward I i feddiannu Cymru, cipiwyd Castell Dinas Brân oddi wrtho gan Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn. Yn ôl traddodiad, yn 1402 cafodd y castell ei feddiannu gan Iarll Arundel; ymgeisodd Owain Glyndŵr ei gipio, ond roedd ei ymdrechion yn aflwyddiannus.

Yn ôl rhai ysgrifenwyr ar y traddodiad Arthuraidd, Dinas Brân yw'r Castell Corbenic (Corbin-Vicus) y sonnir amdano yn y chwedlau am y Greal.

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae safle Dinas Brân wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1957 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 6.24 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]