Castell Dinas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Dinas
Castell Dinas
Castell Dinas, Talgarth

Bryngaer a chastell yn ne Powys yw Castell Dinas. Gydag uchder o 450 m (1,476 troedfedd), dyma'r castell uchaf yng Nghymru a Phrydain i'r de o ucheldiroedd yr Alban. Fe'i lleolir ar safle strategol sy'n amddiffyn y bwlch rhwng cymoedd Rhiangoll a Llynfi, rhwng Talgarth a Chrucywel. (cyfeiriad grid SO179301).

Enw[golygu]

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Hanes[golygu]

Castell Dinas o'r awyr.
Castell Dinas: gwelir adfail y gorthwr ar y dde.
Castell Dinas:Rhan o'r fynedfa ogleddol.

Codwyd bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn, yn y cyfnod rhwng tua 600 CC a 50 OC. Bryngaer amlfurog oedd hon, gydag atodiad ar y mur gorllewinol.[1]

Codwyd castell Normanaidd gyda muriau carreg yno, efallai gan William FitzOsbern neu ei fab Roger de Breteuil, Iarll Henffordd tua 1070 i 1075 OC. Collodd ei bwysigrwydd strategol i'r Normaniaid pan godwyd castell yn Aberhonddu cyn 1093. Mae haneswyr eraill yn cynnig iddo gael ei godi gan deulu de Braose (Brewys) cyn 1180.[1] Ymddengys mai castell o gerrig oedd hwn o'r cychwyn cyntaf yn hytrach na chastell mwnt a beili, gyda gorthwr-neuadd a amgylchynid gan lenfur gyda thyrau sgwar arno. Arosodd Castell Dinas yn nwylo arglwyddi Normanaidd Brycheiniog hyd 1207 pan roddodd y brenin John o Loegr y castell i Peter fitz Herbert. Daeth yn caput (prif ganolfan) arglwyddiaeth Talgarth (Blaenllyfni).

Ymosododd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth arno yn Hydref 1233 a'i difetha. Ond cafodd ei ailgodi gan y brenin Harri III o Loegr a'i adfer i Peter Fitz Herbert. Yn nes ymlaen cipwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a'i ddal gan ei ddeiliaid Cymreig lleol o 1263 hyd 1268. Dinistrwyd y castell yn derfynnol gan luoedd Owain Glyndŵr ganol y 1400au.

Y safle heddiw[golygu]

Mae'r muriau yn adfail gyda phridd yn gorchuddio rhannau ohonynt. Gellir gweld y ffynnon wreiddiol o hyd. Mae cloddiau a ffosydd yr hen fryngaer yn amlwg i'w gweld.

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR015.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Gellir cyrraed y safle mewn 30 munud trwy'r caeau o faes parcio tafarn Pengenffordd, ger Talgarth.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Helen Burnham, Clwyd and Powys, tud. 196.
  2. Cofrestr Cadw.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995)
  • P. M. Remfry, Castell Bwlch y Dinas and the families of Neufmarché, Hereford, Braose, Fitz Herbert, Mortimer and Talbot (ISBN 1-899376-79-8).


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm