Castell Olwen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Olwen
Math caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.1233°N 4.0755°W Edit this on Wikidata
Cod OS SN58024923 Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw CD161 Edit this on Wikidata

Mae Castell Olwen yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanbedr Pont Steffan yn ne Ceredigion, Cymru; cyfeirnod OS: SN580492. Fe'i lleolir uwchben Afon Dulas‎ ger Llanbedr Pont Steffan.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n dyddio o tua'r ail neu'r 3g cyn Crist; mae dwy gaer arall ger llaw o'r un cyfnod sef Castell Allt Goch a Castell Goetre.[1]

Ar y ddaear mae olion amddiffynfa gylch ganoloesol.[2] Mae clawdd llydan sy'n troi yn gwynebu i'r gorllewin a'r gogledd; mae dwy ran tu mewn gyda'r hanner gogleddol yn ffurfio hanner cylch a'r hanner deheuol yn hirgrwn.[3]

Mae'n gofadail rhestredig sydd wedi wedi ei restru fel bryngaer.[2] Mae gwefan Arfordir a Cefn Gwlad Ceredigion yn codi'r cwestiwn "a fu yna gysylltiad rhyngddi â chwedl Culhwch ac Olwen yn y Mabinogion, tybed?"[1] ond ni ellir profi erbyn heddiw fod yr amddiffynfa wedi'i henwi ar ôl Olwen, ferch Ysbaddaden Bencawr.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD161.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[5] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[6] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[7]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Llanbedr Pont Steffan (Allt Goch). Arfordir a Cefn Gwlad Ceredigion.
  2. 2.0 2.1  Castell Olwen, Lampeter. The Gatehouse.
  3. Thomas Lloyd, Julian Orbach, Robert Scourfield (2006). Carmarthenshire and Ceredigion. Yale University Press. ISBN 9780300101799URL
  4. Cofrestr Cadw.
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. Gwefan y BBC
  7. Gwefan CPAT