Mynydd y Gaer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

53°14′N 3°32′W / 53.23°N 3.54°W / 53.23; -3.54 (Mynydd y Gaer (bryngaer).)

Mynydd y Gaer (bryngaer)
Mynydd y Gaer
Mynydd y Gaer, Llannefydd

Mae Mynydd y Gaer (Mynydd Gaer ar y map OS) yn fryn ac yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llannefydd yn sir Conwy, Cymru; mae'n gorwedd tua milltir i'r gogledd-orllewin o bentref Llanefydd, 4 milltir i'r de o dref Abergele. Ei uchder yw 280 medr. cyfeiriad grid SH972716

Clawdd a ffos bryngaer Mynydd y Gaer

Bryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r fryngaer ar y copa yn dyddio o Oes yr Haearn. Fe'i hamgylchynir gan glawdd a ffos sy'n ddyfnach ar yr ochr orllewinol. Mae'n gorwedd ar safle gyda golygfeydd dros ddyffryn Afon Elwy, sy'n llifo wrth droed y bryn, i gyfeiriad yr arfordir i'r gogledd, a thros Ddyffryn Clwyd i'r dwyrain. Hyd yn hyn ni chloddwyd y safle.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE082.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. Gwefan y BBC
  4. Gwefan CPAT