Caer Gwrtheyrn

Oddi ar Wicipedia
Caer Gwrtheyrn
Mathbryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.03933°N 4.286798°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN432403 Edit this on Wikidata
Map

Bryngaer yn ne Ceredigion yw Caer Gwrtheyrn. Saif tua milltir i'r dwyrain o Landysul. (Dynodir fel fort yn unig ar fap yr AO.)

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Saif y fryngaer ar safle arbennig o gryf ar lan ddeheuol Afon Teifi, tua hanner ffordd rhwng Llandysul a Llanfihangel-ar-Arth. Mae'r gaer yn dyddio o Oes yr Haearn.

Ceir gwaith amddiffynnol o garreg yn amgylchynu pen yr allt gan wneud y gorau o rediad naturiol y tirwedd. Y tu allan i hyn ceir dau glawdd o bridd yn y gornel dde-orllewinol sy'n ffurfio math ar amddiffynfa allanol neu barbican i'r gaer. Yn amddiffyn yr amddiffynfa allanol hynny gosodwyd cerrig llym yn y tir i rwystro ymosodwyr, gwaith a adwaenir fel chevaux-de-frise.[1]

Gwrtheyrn[golygu | golygu cod]

Enwir y gaer ar ôl Gwrtheyrn (Vortimer), brenin chwedlonol neu led-hanesyddol y Brythoniaid a fu'n gyfrifol, yn ôl y chwedl, am adael y Sacsoniaid i mewn i Ynys Prydain.

Yn ôl yr Historia Brittonum, llyfr hanes o'r 9g a briodolir i Nennius, ffoes y brenin Gwrtheyrn i rywle o'r enw "Craig Gwrtheyrn" ar ddiwedd ei yrfa. Cafodd ef a'i gwragedd eu llosgi'n fyw "am eu pechodau" gan dân o'r nefoedd "yng Nghraig Gwrtheyrn yng Ngogledd Cymru" ar ôl cael ei erlid yno gan Sant Garmon a weddiodd am dri diwrnod ar i Dduw dial arno am ei "gamweddau".[2] Er nad yw Caer Gwrtheyrn yng ngogledd Cymru, roedd y term 'Gogledd Cymru' yn gallu golygu Cymru mewn cyferbyniad i 'Orllewin Cymru', sef tiriogaeth Brythoniaid de-orllewin Prydain (Cernyw, Dyfnaint a Gwlad yr Haf), ac mae rhai ymchwilwyr wedi ceisio uniaethu Caer Gwrtheyrn a Chraig Gwrtheyrn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Christpher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Faber, 1978), tud. 175.
  2. Nennius: British History and the Welsh Annals, gol. John Morris (Phillimore, 1980), t.33

Dolen allanol[golygu | golygu cod]