Bryngaer Llanymynech

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

52°47′N 3°05′W / 52.79°N 3.09°W / 52.79; -3.09 (Llanymynech Hill (bryngaer).)

Bryngaer Llanymynech
Bryngaer Llanymynech
Bryngaer Llanymynech

Mae Bryngaer Llanymynech a'i arwynebedd o 57 hectar[1] yn un o fryngaerau mwyaf gwledydd Prydain ac yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn neu o bosibl i gyfnod cynharach Oes yr Efydd. Mae wedi'i leoli ar gopa Bryn Llanymynech ar Glawdd Offa ger bentref Llanymynech, cymuned Carreghwfa, Powys; cyfeiriad grid SJ26502215 6 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt. Mae'n debygol mai dyma fryngaer mwyaf Cymru.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae cloddio archaeolegol yn 2002 gan Owen yn dangos fod yr anheddau y tu fewn i'r gaer yn dyddio'n ôl i'r 4g C.C.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG030.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan CPAT
  2. Gwefan Coflein
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. Gwefan y BBC


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm