Penycloddiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 53°12′02″N 3°18′27″W / 53.200540°N 3.307607°W / 53.200540; -3.307607
Penycloddiau

(Bryniau Clwyd)
Bryngaer Penycloddiau; llun wedi ei dynnu o Foel Arthur. Yn y pellter (ar y dde): Moel y Parc.
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Bryngaer Penycloddiau; llun wedi ei dynnu o Foel Arthur. Yn y pellter (ar y dde): Moel y Parc.
Uchder (m) 440
Uchder (tr) 1444
Amlygrwydd (m) 156
Lleoliad rhwng Llandudno a Wrecsam
Map topograffig Landranger 116;
Explorer 265
Cyfesurynnau OS SJ127678
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Marilyn (mynydd)
Penycloddiau is located in Cymru
Penycloddiau (Cymru)

O holl fryngaerau Bryniau Clwyd, Penycloddiau (neu Pen-y-cloddiau) ydyw'r fwyaf gogleddol. Mae Llwybr Clawdd Offa'n croesi ei gopa. I'r dwyrain ohono mae Moel Plas-yw, ac i'r gogledd ohono saif Moel y Parc, gyda'i fast enfawr. Perthyn i Oes yr Haearn mae'r gaer hon, fel caer arall nid nepell ohoni, sef Moel Fenlli. Mae'r gaer yn 21 hectar o ran arwynebedd, sy'n ei gwneud yn un o'r mwyaf yng Nghymru.[1][2] Mae'r cloddiau sy'n amgylchynnu'r gaer yn 1.93 km kilometr o hyd.

Mae Llwybr Clawdd Offa'n rhedeg drwy'r gaer o'r gogledd i'r de, drwy ddwy fynedfa hynafol a cheir peth treulio ar yr henebion gan effaith y cerdded. 53°12′N 3°19′W / 53.2°N 3.31°W / 53.2; -3.31 (Pen-y-Cloddiau (bryngaer).)

Pen-y-Cloddiau
Pen-y-Cloddiau
Pen-y-Cloddiau, Ysgeifiog

Yn 1962 ac wedyn yn 2003 a 2003 gwelwyd olion tai crynion ar lwyfanau o fewn y gaer - tua 43 i gyd - ac yn 2006 a 2009 cafwyd cloddio archaeolegol yno gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (CPAT). Ceir siambr gladdu ar y copa, siambr sy'n perthyn i'r Oes Efydd[1] (tua 4,000 o flynyddoedd oed) ac sydd, felly'n, hŷn na'r fryngaer ei hun. Cafodd y gloddfa hon ei harchwilio gan CPAT yn 2008.[3]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL009.[4] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Delweddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm