Moel Arthur
Math | caer lefal ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1845°N 3.2806°W ![]() |
Cod OS | SJ145660 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL010 ![]() |
Bryn a bryngaer ym Mryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel Arthur (cyfeirnod OS: 145 660). Fe'i lleolir rhwng Llandyrnog (ger Dinbych) i'r gorllewin a Nannerch i'r dwyrain; cyfeiriad grid SJ145660. I'r dwyrain, fel pe'n ei wylio islaw saif yr uchaf o gopaon Bryniau Clwyd: Moel Famau. Yn wahanol i'r 5 bryngaer arall nid yw'n gwarchod bwlch, ac nid yw mewn lleoliad strategol filwrol o bwys; mae hyn (a darganfyddiadau diweddar) yn arwain yr archaeolegydd i gredu fod arwyddocâd defodol i'r gaer.[1]
Bryngaer[golygu | golygu cod]
Ar ben y bryn ceir bryngaer gron sylweddol o tua 2 hectar gyda mynediad iddi ar yr ochr ddwyreiniol. Mae'r muriau amddiffynnol yn troi i mewn ar eu hunain yn y fynedfa a cheir olion sy'n awgrymu dwy siambr warchod. Mae'r gwaith amddiffynnol yn drawiadol, gyda chyfres o gloddiau syrth a ffosydd oddi amgylch pen y bryn. Y tu mewn i'r cyfan, yn arbennig ar yr ochr ddwyreiniol, ger y fynedfa, ceir sawl platfform lle ceid tai crwn o waith pren ar un adeg, yn ôl pob tebyg.
Ymddengys fod Moel Arthur yn fryngaer gymharol gynnar, o ddechrau Oes yr Haearn. Mae'n gorwedd yn nhiriogaeth llwyth y Deceangli. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL010.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Mae Moel Arthur yn un o sawl heneb a thirffurf yng Nghymru a gwledydd Prydain a enwir ar ôl Arthur, ond yn yr achos hwn does dim chwedl na thraddodiad i'w gysylltu â'r safle.
Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn y lôn fynydd sy'n dringo o Landyrnog trwy bentref bach Llangwyfan i gyfeiriad Nannerch. Mae Llwybr Clawdd Offa yn rhedeg yn agos i'r safle hefyd.
Dosbarthiad y mynydd[golygu | golygu cod]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 456 metr (1496 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.
Oriel[golygu | golygu cod]
-
Moel Arthur (a'i goron o gloddiau amddiffynnol, o lawr Dyffryn Clwyd
-
O gyfeiriad Moel Llys y Coed
-
Y bryn o gopa Moel Llys y Coed
-
Moel Llys y Coed - a Moel Famau (yn y pellter eithaf) o Foel Arthur. Moelydd Clwyd
-
Ffosydd ac amddiffynfeydd y gaer gyda Moel Plas-yw yn y pellter
-
Yr olygfa o Foel Llys y Coed, 2014
-
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon Cymru
- Rhestr o fryngaerau Cymru
- Llwythau Celtaidd Cymru
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Discovering a Welsh Landscape gan Ian Brown; tud 52-55
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ “Database of British and Irish hills”
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen marw]