Llangwyfan, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eirlysiau ym mynwent Eglwys Sant Cwyfan
Bythynnod ar gwr y pentref

Pentref yn Sir Ddinbych yw Llangwyfan. Saif tua pedair milltir i'r dwyrain o dref Dinbych a dwy filltir i'r dwyrain o Afon Clwyd. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Cwyfan; ceir y cofnod cyntaf amdani yn 1254 ond gall y safle fod yn hŷn (ceir eglwys arall ar Ynys Môn, gweler Eglwys Llangwyfan). Mae bryngaer Moel Arthur ychydig i'r gogledd-ddwyrain.

Arferai Llangwyfan fod yn adnabyddus fel safle Ysbyty Llangwyfan neu Sanatoriwm Gogledd Cymru. Yn wreiddiol roedd hon yn ysbyty diciau, ac yn ddiweddarach daeth yn ysbyty cyffredinol i anhwylderau'r frest, ond mae wedi cau erbyn hyn .

Eglwys Sant Cwyfan[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o ddilynwyr Sant Beuno oedd Sant Cwyfan a roddodd ei enw i'r eglwys leol. Mae'r eglwys tua 1.5 km i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Tyrnog, Llandyrnog a sonir amdani'n wreiddiol yn 1254 fel "Langeifin", ond dylid cofio nad oedd y cofnodwr trethi yn deall Cymraeg, heb sôn am ei sillafu. Ceir hefyd eglwys o'r un enw ar Ynys Cribinau ym Môn ac un arall yn Nhudweiliog, Gwynedd. Canfyddwyd olion yr eglwys cynharaf, canoloesol ger wal yn y gogledd, ond perthyn i'r 15C mae'r adeilad presennol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 26 Medi 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]