Corwen
![]() | |
Math | cymuned, tref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Cynwyd ![]() |
Cyfesurynnau | 52.98°N 3.379°W ![]() |
Cod SYG | W04000147 ![]() |
Cod OS | SJ075435 ![]() |
Cod post | LL21 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Corwen. Saif yn Nyffryn Edeirnion ar lôn yr A5 rhwng Betws-y-Coed (23 milltir) a Llangollen (11 milltir). I'r gogledd mae Rhuthun (13 milltir) ac i'r de y mae'r Bala (12 milltir).

Mae Afon Dyfrdwy yn llifo heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun cyntaf o'r arwr a godwyd ar y sgwâr, ond mae'r Tywysog ar ei farch (gweler y llun) wedi'i dderbyn gyda breichiau agored. Yn flynyddol ers 2009 ceir gorymdaith drwy'r dref a dathliadau dros gyfnod o ddeuddydd i ddathlu Diwrnod Glyn Dŵr (Medi 16). Ceir hefyd hen domen neu fwnt sef Castell Glyndŵr tua kilometr i'r dwyrain, i gyfeiriad y Waun.
Dyma ble'r oedd Pafiliwn Corwen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]
Pobl o Gorwen[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mary Lloyd (1819–96), ffeminist, cerflunydd a lesbiad Cymreig arloesol o deulu Plas Rhagad
- Elena Puw Morgan (1900-73), nofelydd
- D. Tecwyn Lloyd (1914-92), awdur a golygydd

Eisteddfodau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cynhaliwyd Eisteddfod Corwen gan y Gwyneddigion ym 1789.
- Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Corwen ym 1919.
Atyniadau yn y cylch[golygu | golygu cod y dudalen]
- Caer Drewyn - bryngaer o Oes yr Haearn ar Fynydd y Gaer a gysylltir ag Owain Gwynedd ac Owain Glyn Dŵr
- Mwnt Owain Glyndŵr - 3 milltir i'r dwyrain
- Y Rug - plasdy'r Salbriaid a'r Wynniaid ar ei hôl hwy, lle ceir Capel y Rug (yng ngofal Cadw).
- Rheilffordd Llangollen
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
- Croes Corwen: croes eglwysig
- Gorsaf reilffordd Corwen
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen ·
Dinbych ·
Llangollen ·
Prestatyn ·
Rhuddlan ·
Rhuthun ·
Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler ·
Betws Gwerful Goch ·
Bodelwyddan ·
Bodfari ·
Bontuchel ·
Bryneglwys ·
Bryn Saith Marchog ·
Carrog ·
Cefn Meiriadog ·
Clocaenog ·
Cwm ·
Cyffylliog ·
Cynwyd ·
Derwen ·
Diserth ·
Y Ddwyryd ·
Efenechtyd ·
Eryrys ·
Four Crosses ·
Gallt Melyd ·
Gellifor ·
Glyndyfrdwy ·
Graeanrhyd ·
Graigfechan ·
Gwyddelwern ·
Henllan ·
Loggerheads ·
Llanarmon-yn-Iâl ·
Llanbedr Dyffryn Clwyd ·
Llandegla ·
Llandrillo ·
Llandyrnog ·
Llandysilio-yn-Iâl ·
Llanelidan ·
Llanfair Dyffryn Clwyd ·
Llanferres ·
Llanfwrog ·
Llangwyfan ·
Llangynhafal ·
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ·
Llanynys ·
Maeshafn ·
Melin y Wig ·
Nantglyn ·
Pandy'r Capel ·
Pentrecelyn ·
Pentre Dŵr ·
Prion ·
Rhewl (1) ·
Rhewl (2) ·
Rhuallt ·
Saron ·
Sodom ·
Tafarn-y-Gelyn ·
Trefnant ·
Tremeirchion