Loggerheads
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1543°N 3.2142°W |
Cod OS | SJ189626 |
Cod post | CH7 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Gareth Davies (Ceidwadwyr) |
AS/au | James Davies (Ceidwadwyr) |
Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Cyfarthfa (Saesneg: Loggerheads) ( ynganiad ); ni cheir enw Cymraeg swyddogol[1] ond yr enw hynafol yw Rhyd y Gyfarthfa.[2][3][4] Fe'i lleolir ger y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint, tua 4 milltir i'r gorllewin o'r Wyddgrug ger Gwernymynydd, wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd.
Llifa Afon Alun, un o lednentydd Afon Dyfrdwy, trwy Loggerheads. Dim ond ychydig o dai a thafarn sydd yno.
Nodir y ffin rhwng siroedd Dinbych a'r Fflint gan Garreg Carn Mawrth Arthur. Yn ôl y chwedl, gadawodd Mawrth y Brenin Arthur ôl ei garn arni pan neidiodd i lawr o ben Moel Famau. Saif y garreg ar ymyl y briffordd A494, wedi'i chysgodi dan fwa. Gosodwyd plac Saesneg yno yn esbonio ei harwyddocad yn 1763. Bu gan y dafarn leol arwydd ar un adeg yn dangos dau ddyn yn ysgyrnygu ar ei gilydd dan y geiriau "We Three Loggerheads": y gwyliwr oedd y trydydd "loggerhead".
Ceir Parc Gwledig Loggerheads ger y pentref.
Parc Gwledig Loggerheads
[golygu | golygu cod]Dylanwadodd y creigiau calchfaen yn fawr ar bob rhan o’r parc a'r pentrefi o'i gwmpas, gan siapio edrychiad y tirlun yn ogystal â’r planhigion sy’n tyfu yma. Ceir nodweddion daearegol hynod, megis Ogof Ceunant y Cythrael. Oherwydd y calchfaen, daeth diwydiant i’r ardal: mwyngloddiwyd plwm yma yn ystod y 18g a'r 19g, a chodwyd pentref Cadole yn arbennig yn un pwrpas ar gyfer y mwynwyr. Ceir llawer o lwybrau i'w cerdded, bellach, ac mae'n lle poblogaidd i ymwelwyr a thrigolion lleol.
-
Pentref bychan Cyfarthfa (Loggerheads)
-
Canolfan, siop a swyddfa'r Parc
-
Un o'r calchfaeni enfawr
-
Un o flodau prin y Parc: Gwir Gwlwm Cariad
-
Ogof Ceunant y Cythrael
-
Pont grog Ceunant y Cythrael
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion