Saron, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Saron, Sir Ddinbych
Chapel at Saron. - geograph.org.uk - 82710.jpg
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.13385°N 3.45259°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ann Jones (Llafur)
AS/au Chris Ruane (Llafur)
Am leoedd a phethau eraill o'r un enw gweler Saron (tudalen wahaniaethu).

Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Saron (weithiau Pentre Saron ("Cymorth – Sain" ynganiad ) 0, e.e. ar fapiau'r Arolwg Ordnans). Saif ar ffordd gefn, i'r gogledd-orllewin o Ruthun ac i'r de-orllewin o dref Dinbych. Mae yng nghymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch.

Capel[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwyd y pentref ar ôl y capel lleol, Capel Saron (Methodistiaid Calfinaidd), a godwyd yn 1826, gydag ysgoldy a thŷ capel wedi eu hychwanegu yn 1908.[1] Yn 2014 roedd y capel yn dal i fynd.[2]

Pobl o Saron[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd teulu'r awdur a newyddiadurwr Frank Price Jones ar ochr ei dad yn hannu o Saron.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Frank Price Jones, Crwydro Gorllewin Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1969).
  2. Capel Saron, gwefan Cyngor Sir Ddinbych.