Neidio i'r cynnwys

Carrog

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Carrog (gwahaniaethu)
Carrog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9834°N 3.3356°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ104437 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUSimon Baynes (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yn ne Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Carrog("Cymorth – Sain" Ynganiad ). Gorwedd ar lan Afon Dyfrdwy tua 2 filtir i'r dwyrain o Gorwen, ar y ffordd i gyfeiriad Llangollen (cyfeiriad grid SJ114437). Mae Carrog 104 milltir (167.3 km) o Gaerdydd a 169.3 milltir (272.4 km) o Lundain. Cyfeirwyd at y pentref fel Llansantffraid-Glyn Dyfrdwy hyd troad yr 20g, gan y safai o fewn plwyf hynafol Llansantffraid Glyndyfrdwy.[1] Daw ei henw cyfoes o Orsaf Reilffordd Carrog yr ochr arall i Afon Dyfrdwy, ac enwyd hwnnw yn ei dro ar ôl ystad Carrog gerllaw.


Tai ar lannau'r afon
Gorsaf Reilffordd Carrog

Mae'r pentref yn gorwedd ar groesffordd ar y B543 ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy. Mae Pont Carrog yn croesi'r afon yma i gysylltu'r pentref â ffordd yr A5 yr ochr draw. Llifa Afon Morynion (Afon Morwynion) trwy'r pentref i ymuno yn Afon Dyfrdwy. Mae Gorsaf reilffordd Carrog yn ffurfio rhan o Reilffordd Llangollen erbyn hyn.

Yn y bryniau tua milltir i'r gorllewin, ceir safle hen fryngaer Caer Drewyn.

Mae ysgol gynradd gymunedol Ysgol Carrog dros 100 mlwydd oed.

Gefeilldref

[golygu | golygu cod]

Gefeillwyd Carrog â phentref Plouyé, Llydaw yn 2005.[2]

Pobl o Garrog

[golygu | golygu cod]
  • Iorwerth Goes Hir, bardd, llenor a gwleidydd
  • Gwion Lynch, bardd, llenor a gwleidydd
  • Peredur Lynch, llenor ac athro Cymreig
  • Fiona Collins, Awdur llên gwerin, enillydd Dysgwr y Flwyddyn, 2019

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Take the Carrog Village Trail. Adalwyd ar 8 Awst 2011.
  2.  CARROG - PLOUYÉ TWINNING VISIT. Y Bont (Medi 2005).


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato