Neidio i'r cynnwys

Prion, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Prion
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.149834°N 3.4175°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Pentref yn Nyffryn Clwyd yw Prion ("Cymorth – Sain" ynganiad ), wedi ei leoli yng nghymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch yn Sir Ddinbych, tua dwy filltir i'r de o dref Dinbych ac ar ffîn ogleddol Mynydd Hiraethog. Nid oes canolbwynt i'r pentref, dim ond casgliad o dai a ffermydd ar wasgar. Mae ysgol gynradd Ysgol Pantpastynog, Capel Prion (Methodistaidd Calfanaidd) ac Eglwys Sant Iago (wedi cau yn 2008) yn y pentref.

Eglwys Prion.

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Yn ôl y Dictionary of the Place-Names of Wales, ysytyr yr enw yw 'tir Pereu'.[1]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato