Edward Jones (emynydd)

Oddi ar Wicipedia
Edward Jones
Ganwyd19 Mawrth 1761 Edit this on Wikidata
Prion Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 1836 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantJohn Jones, Daniel Jones Edit this on Wikidata

Bardd ac emynydd oedd Edward Jones, (hefyd Edward Jones, Maes y Plwm) (19 Mawrth 1761 - 27 Rhagfyr 1836).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ar fferm Tan-y-Waen, Prion yn Sir Ddinbych. Bu ei dad farw pan oedd ef tua 10 oed. Priododd Jane Pierce a ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu Jane farw yn 1794, a'r flwyddyn wedyn priododd Margaret Roberts a cawsant 13 o blant.

Tua diwedd y 1790'au symudodd gyda'i deulu i fyw i dyddyn Maes y Plwm ym Mhrion, a bu'n cadw ysgol Saesneg am ysbeidiau yn y Prion ac yn gweithio yn swyddfa'r tollau yn Lerpwl. Bu'n gofal am ysgol Dinbych am ychydig. Yn 1805 aeth i Gaer i arolygu cyhoedd cyfieithiad Cymraeg o Feibl Samuel Clarke dros J. Humphreys, Caerwys. Wedi dychwelyd i Brion dewiswyd ef yn flaenor. Bu ei ail wraig farw yn 1818. Yn Ionawr 1825, rhoes fferm Maes-y-plwm drosodd i'w fab, Edward, ac aeth i gadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn Llyn-y-Pandy, Sir y Fflint. Symudodd oddi yno i Gilcain, eto i gadw ysgol, yn 1829, ac yno y bu farw. Fe'i claddwyd yn Llanrhaeadr.

Gwaith barddonol[golygu | golygu cod]

Ymddangosodd ei waith cyntaf, 'Hymnau … ar Amryw Destynau', yn 1810, wedi ei argraffu yn Ninbych; adargraffiadau gyda chyfnewidiadau yn 1820 a 1829. Yn 1831, cyhoeddodd gerdd ddychan, 'Gwialen i gefn yr ynfyd', yn ateb i lyfr Edward Jones, gweinidog y Wesleaid yn Llanidloes. Ei unig lwyddiant eisteddfodol oedd ‘Cân ar Ffolineb Swyngyfaredd’ a wobrwywyd yn y Trallwng, 1824. Ei emynau poblogaidd oedd ‘Mae'n llond y Nefoedd,’ ‘Cyfamod Hedd,’ a ‘Pob seraff, pob sant.’ Cyhoeddodd ei feibion, John a Daniel, weddillion ei waith yn eu cofiant iddo yn 1839. Er iddo adael gorchymyn i ddinistrio ei holl ganiadau anorffenedig, y mae un llawysgrif y dechreuodd ei hysgrifennu yn 1789, gyda dyddiadur ei fab Daniel yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]