Llanferres
| Math | pentref, cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 827, 746, 676 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Ddinbych |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,535.7 ha |
| Cyfesurynnau | 53.137°N 3.214°W |
| Cod SYG | W04000164 |
| Cod OS | SJ188604 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y Senedd | Clwyd |
| Etholaeth y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanferres(
ynganiad ). Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd, ar y briffordd A494, tua hanner ffordd rhwng Yr Wyddgrug i'r gogledd-ddwyrain a Rhuthun i'r de-orllewin.
Saif y pentref ar lan orllewinol Afon Alun. I'r gorllewin ceir bryngaer Foel Fenlli. yng nghanol y penterf mae Eglwys Sant Berres, Llanferres, a godwyd yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog).
Chwedl werin
[golygu | golygu cod]Mae Morfudd ferch Urien a'i brawd Owain ab Urien yn ymddangos mewn hen chwedl werin Gymraeg a gysylltir a rhyd yn y plwyf a elwid yn Rhyd-y-gyfarthfa. Byddai holl gŵn y wlad yn dod yno i gyfarth, ond ni feiddiai neb fynd yno i weld beth oedd yn ei achosi nes i Urien Rheged fynd, a darganfod merch yn golchi dillad. Cafodd Urien ryw gyda'r ferch yn y rhyd, ac yna dywedodd hi ei bod yn ferch i frenin Annwn, a bod tynged arni i olchi wrth y rhyd nes cael mab gan Gristion. Dywedodd wrth Urien am ddychwelyd ymhen blwyddyn, a phan ddaeth, cyflwynodd hi ddau blentyn iddo, Owain a Morfudd.
Enwogion
[golygu | golygu cod]Ganwyd yr ysgolhaig ac awdur Dr John Davies (c. 1567 - 1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, yn Llanferres tua'r flwyddyn 1567.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
